Bwrdd Ymddiriedolwyr

Linda Tomos

Linda Tomos, Cadeirydd

Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Rona Aldrich

Rona Aldrich Is-Gadeirydd

Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i bawb mewn cymdeithas. 

Yr Athro Jane Aaron

Yr Athro Jane Aaron, Ysgrifennydd Mygedol

Mae’r Athro Jane Aaron yn addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac yn awdur o Gymru. Hyd nes ei hymddeoliad ym mis Rhagfyr 2013, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg yn ne Cymru.

Penodi Trysorydd newydd Cyngor Llyfrau Cymru

Alfred Oyekoya Trysorydd Mygedol

Graddiodd Alfred Oyekoya gydag MSc Cyllid o Brifysgol Abertawe ac mae’n Gyfrifydd Siartredig, gyda phrofiad o arweinyddiaeth a datblygu busnes dros nifer o flynyddoedd. Mae Alfred yn eiriolwr egnïol, penderfynol ac ymroddedig dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Lowri Ifor

Lowri Ifor Ymddiriedolwr

Yn gyn athrawes, mae Lowri Ifor wedi gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru ers 2018 fel Swyddog Addysg a Digwyddiadau ac mae hefyd yn dysgu dosbarth Cymraeg i Oedolion.

Yr Athro Carwyn Jones

Yr Athro Carwyn Jones Ymddiriedolwr

Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999–2021.

Alwena Hughes Moakes

Alwena Hughes Moakes Ymddiriedolwr

Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. 

Yr Athro M Wynn Thomas

Yr Athro M. Wynn Thomas Ymddiriedolwr

Yr Athro M. Wynn Thomas yw deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru).

Dr Caroline Wintersgill

Dr Caroline Owen Wintersgill Ymddiriedolwr

Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Ddarlithydd mewn Cyhoeddi yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar y radd MA mewn Cyhoeddi.