Siôn Lloyd Edwards

Beirniaid Tir na n-Og 2023: Siôn Lloyd Edwards

Siôn Lloyd Edwards

Helô! Siôn ydw i, ac rwy’n astudio’r Gymraeg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cefais fy magu yn Rhuthun, Dyffryn Clwyd, a threuliais flynyddoedd gwerthfawr iawn yn mynychu Ysgol Uwchradd Brynhyfryd. Er fy mod yn Gymro i’r carn, mae’r diolch yn bennaf i Adran Gymraeg wych Ysgol Brynhyfryd am fy helpu i ddisgyn mewn cariad gyda llenyddiaeth Gymraeg. Wedi astudio’r Gymraeg yn y chweched dosbarth mi benderfynais mai Aberystwyth fyddai’r lle i mi, a hyd heddiw nid wyf yn difaru’r penderfyniad hwnnw am eiliad. Rwyf wrth fy modd yn Aber ac yn gobeithio y caf flynyddoedd lawer yma eto, wedi i mi raddio.

Pan fydd gen i ddau funud yn rhydd rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o chwaraeon – pêl-droed yn bennaf. Rwy’n gefnogwr brwd o dîm cenedlaethol Cymru ac yn eu dilyn ar hyd Ewrop i’r gemau oddi cartref. Gallwch ddweud fod pêl-droed yn rhyw fath o grefydd i mi, a dweud y gwir! Ar hyd y blynyddoedd, rwyf wedi chwarae i glybiau pêl-droed lleol megis C.P.D. Rhuthun a C.P.D Cerrigydrudion, ond bellach rwy’n chwarae fy mhêl-droed yma yn Aberystwyth gan gynrychioli’r Brifysgol wrth chwarae gemau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Rwyf hefyd yn hoff o’r celfyddydau. Bues yn canu mewn corau cyn dod i’r brifysgol ac wedi cael pleser mawr wrth gynrychioli Aelwyd Pantycelyn mewn ychydig o berfformiadau corawl yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae bod yn rhan o’r gymuned Gymraeg yn holl bwysig imi ac rwyf wrth fy modd yn cymdeithasu gyda myfyrwyr eraill sy’n rhan o Undeb Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.

Ar nodyn academaidd, rwyf bellach yn fy nhrydedd flwyddyn ac wedi mwynhau pob elfen o’r cwrs, hyd yn hyn. Mae astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth wedi agor fy llygaid i nifer o yrfaoedd ac wedi rhoi cyfle imi wthio fy ngalluoedd er mwyn cyflawni gwaith o’r safon uchaf. Byddaf yn mwynhau astudio pynciau cyfoes a bellach yn dilyn modiwl sy’n ymwneud â golygu a’r diwydiant cyhoeddi yma yng Nghymru. Mae’n wir dweud mai’r modiwl yma yw fy ffefryn!

Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r panel beirniadu y flwyddyn yma, ac edrychaf ymlaen yn arw at ddarllen y gweithiau i gyd. Diolch am y croeso, a phob hwyl!