Linda Tomos – Cadeirydd
Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Rona Aldrich – Is-Gadeirydd
Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i bawb mewn cymdeithas.
Alfred Oyekoya MBE – Trysorydd
Penodwyd Alfred Oyekoya MBE yn Drysorydd ym mis Hydref 2021.
Graddiodd Alfred Oyekoya gydag MSc Cyllid o Brifysgol Abertawe ac mae’n Gyfrifydd Siartredig, gyda phrofiad o arweinyddiaeth a datblygu busnes dros nifer o flynyddoedd. Mae Alfred yn eiriolwr egnïol, penderfynol ac ymroddedig dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Meinir Ebbsworth
Mae Meinir wedi gweithio ym maes addysg fel athrawes uwchradd, ymgynghorydd a Chyfarwyddwr Addysg. Bu’n awduro nifer o lyfrau ym maes Llythrennedd Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc. Bellach, mae’n Gyfarwyddwr Strategol i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Lowri Ifor Ymddiriedolwr
Yn gyn athrawes, mae Lowri Ifor wedi gweithio i Amgueddfa Lechi Cymru ers 2018 fel Swyddog Addysg a Digwyddiadau ac mae hefyd yn dysgu dosbarth Cymraeg i Oedolion.
Yr Athro Carwyn Jones Ymddiriedolwr
Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999–2021.
Alwena Hughes Moakes Ymddiriedolwr
Mae Alwena Hughes Moakes yn Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir.
Ruth Thomas Ymddiriedolwr
Mae Ruth yn uwch olygydd newyddion gyda BBC News, ble mae’n arwain tim sy’n cynorthwyo newyddiadurwyr i ddefnyddio data i dyfu cynulleidfaoedd a dyfnhau’r berthynas gyda nhw – yn y DU ac ar draws y byd. Mae hi wedi gweithio yn adran newyddion BBC Cymru mewn amryw o swyddi gan gynnwys fel golygydd rhaglen Newyddion S4C ac un o sylfaenwyr Cymru Fyw. Mae Ruth yn ddarllenwr brwd a rhedwr araf.
Yr Athro M. Wynn Thomas Ymddiriedolwr
Yr Athro M. Wynn Thomas yw deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n gyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru).
Dr Caroline Owen Wintersgill Ymddiriedolwr
Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Ddarlithydd mewn Cyhoeddi yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar y radd MA mewn Cyhoeddi.