Caiff y grantiau cyhoeddi eu dyfarnu bedair gwaith y flwyddyn gan yr Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Saesneg. Mae’r Is-bwyllgor fel arfer yn cwrdd ym misoedd Chwefror, Mai, Gorffennaf a Hydref. Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau ymlaen llaw. Fel rheol, ni ddyfernir grantiau fwy na dwy flynedd cyn y dyddiad cyhoeddi arfaethedig. Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar gyfer cynlluniau unigol ar ein tudalen Sut i Ymgeisio.
IS-BWYLLGOR GORFFENNAF 2024
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i’r is-bwyllgor Gorffennaf 2024 fel a ganlyn:
Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol/Clasuron – 24 MAI 2024
Blaendaliadau Awduron/Marchnata – 24 MAI 2024
IS-BWYLLGOR HYDREF 2024
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i’r is-bwyllgor Hydref 2024 fel a ganlyn:
Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol/Clasuron – 14 AWST 2024
Blaendaliadau Awduron/Marchnata – 14 AWST 2024