Dyddiadau Cau (Deunydd Saesneg)

Caiff grantiau cyhoeddi eu dyfarnu bedair gwaith y flwyddyn gan yr  Is-bwyllgor  Datblygu Cyhoeddi Saesneg. Mae’r Is-bwyllgor fel arfer yn cwrdd ym misoedd Chwefror, Mai, Gorffennaf a Hydref. Cyhoeddir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau ymlaen llaw. Fel rheol, ni ddyfernir grantiau fwy na dwy flynedd cyn y dyddiad cyhoeddi arfaethedig. Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar gyfer cynlluniau unigol ar ein tudalen Sut i Ymgeisio.

IS-BWYLLGOR CHWEFROR 2023
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i’r is-bwyllgor Chwefror 2023 fel a ganlyn:

Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol/Marchnata/Clasuron – 12 RHAGFYR 2022

Blaendaliadau Awduron/Marchnata/Grantiau Gweithgareddau Marchnata Bach – 19 RHAGFYR 2022

IS-BWYLLGOR MAI 2023
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau i’r is-bwyllgor Mai 2023 fel a ganlyn:

Grantiau Llyfrau Llenyddol Unigol/Marchnata/Clasuron – 31 MAWRTH 2023

Blaendaliadau Awduron/Marchnata/Grantiau Gweithgareddau Marchnata Bach – 6 EBRILL 2023