Tendrau

GWAHODDIAD I DENDRO
Cyhoeddwyr Refeniw a Swyddi a Gefnogir 2026–2031
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer Cyhoeddwyr Refeniw a Swyddi a Gefnogir i gyhoeddwyr Saesneg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ar gyfer 2026–2031.

Mae hwn yn gyfnod newydd o bum mlynedd, gan ddechrau Ebrill 2026 a gorffen ym mis Mawrth 2031.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 5yp, dydd Gwener 10 Hydref 2025.

Am ragor o wybodaeth neu i drafod a ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, cysylltwch ag english.grants@books.wales.


TENDRAU BLAENOROL – BELLACH WEDI CAU

GWAHODDIAD I DENDRO
Grantiau Cyhoeddi Saesneg – Cylchgrawn Llenyddol Newydd 2024–2028

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cylchgrawn llenydol Saesneg newydd ar gyfer 2024–2028

Mae hyn ar gyfer cyfnod masnachfraint newydd o bedair blynedd yn dechrau ym mis Hydref 2024 ac yn dod i ben ym mis Mawrth 2028.  Am ragor o wybodaeth, gweler y wefan neu cysylltwch â English.Grant@books.wales

Mae dau gam i’r grant hwn; y dyddiad cau ar gyfer y cam cyntaf yw 5:00yh ar 15 Ebrill 2024.  

Lincs perthnasol:

Gwahoddiad i dendro

Ffurflen gais ar gyfer Cam 1

 

Am ragor o wybodaeth neu i drafod a ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, cysylltwch â Dr Ashley Owen: english.grants@books.wales | 01970 624151.

 

 

GWAHODDIAD I DENDRO
Grantiau Cyhoeddi Saesneg – Cylchgronau Diwylliannol 2024–2028

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cyllid i Grant Cylchgronau Diwylliannol ar gyfer 2024–2028

Mae hyn ar gyfer cyfnod masnachfraint newydd o bedair blynedd am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2028.  Am ragor o wybodaeth, gweler isod neu cysylltwch â English.Grant@books.wales

Mae dau gam i’r grant hwn; y dyddiad cau ar gyfer y cam cyntaf yw 5:00yh ar 25 Awst 2023.  

Lincs perthnasol:

Gwahoddiad i dendro

Telerau ac Amodau – Cylchgronau Diwylliannol Saeseneg 2023

Canllawiau – Cylchgronau Diwylliannol Saesneg 2023

Ffurflen gais – cam 1