Cyngor Llyfrau Cymru
1961
Sefydlu’r Cyngor
Y Cymdeithasau Llyfrau Cymraeg sirol yn uno i ffurfio corff cenedlaethol newydd, Cyngor Llyfrau Cymraeg, gyda chefnogaeth ariannol awdurdodau lleol.
1965
Pennaeth #1
Penodi Alun Creunant Davies yn bennaeth ar y corff newydd (1965–87).
1970 ymlaen
Gwasanaethau Arbenigol
Sefydlu adrannau dan nawdd Cyngor y Celfyddydau i gynnig gwasanaethau arbenigol i gyhoeddwyr ym meysydd golygu, dylunio, cyhoeddusrwydd a marchnata.
1979
Llyfrau a Chylchgronau Plant
Derbyn cyfrifoldeb am ddosbarthu grant newydd i hyrwyddo cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg i blant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach trosglwyddwyd Grant y Llywodraeth ar gyfer llyfrau Cymraeg i oedolion i’r Cyngor Llyfrau.
1981
Pencadlys Newydd
Prynu Castell Brychan yn Aberystwyth yn bencadlys gweinyddol
1982
Canolfan Ddosbarthu
Codi adeilad newydd pwrpasol ar Ystad Glanyrafon, Llanbadarn, Aberystwyth, ar gyfer dosbarthu llyfrau oedd yn rhan bwysig o waith y Cyngor ers y dyddiau cynnar
1987
Pennaeth #2
Penodi Gwerfyl Pierce Jones yn Gyfarwyddwr (1987-2009)
1990
Gwobrau Llyfrau
Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am Ganolfan Llenyddiaeth Plant Cymru i’r Cyngor Llyfrau. Daeth Gwobrau Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, a Thlws Mary Vaughan Jones yn rhan o gyfrifoldebau newydd Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau.
1995
Newid Enw
Cyngor Llyfrau Cymru yn dod yn deitl swyddogol y sefydliad, gan ddisodli Cyngor Llyfrau Cymraeg fel enw.
1995
Sefydlu’r Cyfeillion
Nod y Cyfeillion yw hyrwyddo gwaith y Cyngor Llyfrau a chefnogi’r diwydiant llyfrau yng Nghymru, yn y ddwy iaith.
1996
System TG Vista
Cyflwyno meddalwedd newydd i reoli systemau cyhoeddi a dosbarthu
1998
Blwyddyn Darllen
Y Cyngor yn derbyn gwahoddiad i gydlynu’r gweithgarwch yng Nghymru. yn 1998 ac eto yn 2008.
2002
Dod o dan y Llywodraeth
Gosod y Cyngor ar sylfeini ariannol cadarnach gyda Llywodraeth y Cynulliad (Llywodraeth Cymru bellach) yn derbyn y prif gyfrifoldeb am ei ariannu.
2003
Grantiau Saesneg
Trosglwyddo holl gyfrifoldebau Cyngor y Celfyddydau ym maes cyhoeddi i’r Cyngor Llyfrau. Y Cyngor Llyfrau bellach yn rhoi grantiau i lyfrau a chylchgronau Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg.
2005
Lansio Gwales
Lansio siop lyfrau ar-lein gwales.com gan alluogi’r cyhoedd i archebu holl gynnyrch cyhoeddwyr Cymru a chyhoeddiadau o ddiddordeb Cymreig o un lle.
2006
Lansio Library of Wales
Lansio teitlau cyntaf y gyfres Library of Wales. Roedd hwn yn un o nifer o gynlluniau i ddatblygu Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, diolch i’r gefnogaeth ychwanegol a ddaeth yn sgil adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad yn 2004.
2009
Pennaeth #3
Elwyn Jones yn olynu Gwerfyl Pierce Jones fel Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr (2009–17).
2011
Dathlu’r 50
Nodi pen-blwydd y Cyngor Llyfrau yn hanner cant
2017
Pennaeth #4
Penodi Helgard Krause yn Brif Weithredwr (2017- )
2021
Lansio ffolio
2021
Dathlu’r 60
Lansio gwefan newydd ffolio.cymru yn hyrwyddo e-lyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru
Y Cyngor Llyfrau yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a dathlu darllen gydag wythnos o weithgareddau o 1–5 Tachwedd 2021, yn cynnwys cyhoeddi cyfrol newydd am ei hanes O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60.
2024
System TG KNK
Cyflwyno meddalwedd newydd i reoli systemau cyhoeddi a dosbarthu.