Elizabeth Kennedy

Beirniad Tir na n-Og 2023: Elizabeth Kennedy

Mae Elizabeth Kennedy yn lyfrgellydd ysgol uwchradd o Aberystwyth.

Symudais i Aberystwyth yn 1999 i astudio’r Gyfraith yn y Brifysgol, a chwympo mewn cariad â’r bobl gynnes a’r lleoliad gwirioneddol syfrdanol. Ar ôl mynychu Ysgol y Gyfraith yng Nghaer, dychwelais i Aberystwyth i ymarfer y gyfraith fel cyfreithiwr mewn cwmni am tua 10 mlynedd. Wedyn cymerais seibiant byr o’m gyrfa fer i fagu fy nau blentyn. Yn ystod y cyfnod hwn penderfynais fod angen newid o’r papurau cyfreithiol, contractau a’r olygfa undonog o’r postyn lamp y tu allan i’r ffenest. Roedd tynged yn sicr o’m plaid gan fy mod yn gallu dilyn fy nghariad oes at ddarllen a dod yn llyfrgellydd yn Ysgol Penglais, Aberystwyth.

 

Does wir ddim swydd well yn y byd nag annog plant i ddarllen, a datblygu yr un cariad at ddarllen ag sydd gen i. Fel plentyn ro’n i wedi gwirioni ar lyfrau, ac fe’m canfuwyd yn aml yn darllen â fflachlamp pan oeddwn i fod yn cysgu! Roeddwn i wedi marchogaeth eirth gwyn ym Mhegwn y Gogledd, ymuno ag academi ar gyfer gwrachod, bwyta snozzcumbers, hedfan gyda dreigiau, neidio i lawr tyllau cwningod a mwynhau gerddi cyfrinachol – y cyfan tra mod i’n dal yn yr ysgol gynradd! Gall y dychymyg a’r profiad a geir gan lyfrau fynd â chi i unrhyw le, ac mae gen i’r fraint o fod mewn sefyllfa i annog plant i ddod o hyd i’w bydoedd eu hunain. Pan fydd gen i fyfyriwr eiddgar sydd am drafod y llyfr mae wrthi’n ei ddarllen, neu pan fydd rhywun yn gofyn i mi argymell cyfrol i’w darllen nesaf, fy swydd i yw’r orau yn y byd. Rwyf wedi treblu nifer benthyciadau llyfrgell yr ysgol, ac rwy’n parhau i ddatblygu a meithrin ethos o ddarllen er mwyn pleser ar draws yr ysgol. Fy nod yw annog a chefnogi pob plentyn ar ei daith ddarllen, boed hynny gyda nofel graffig, cylchgrawn, llyfr ffeithiol, manga, nofel glasurol, ffuglen i oedolion ifanc neu e-lyfr.

Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ngofyn i fod ar banel beirniaid gwobrau Tir na n-Og gan fy mod yn gwironi ar ddarllen llyfrau newydd. Mae cael cais i ddarllen ac archwilio llyfrau gyda chefndir a chysylltiad Cymreig yn bleser, ac rwy’n ysu am gael dechrau ar y gwaith. Mae’n gyffrous gweld toreth o lyfrau gwych yn cael eu cyhoeddi ac mae’r gwobrau hyn yn helpu i sicrhau bod llenyddiaeth wych i blant yn cael ei dathlu.