Morgan Dafydd

Beirniad Tir na n-Og 2023 - Morgan Dafydd

Morgan Dafydd yw Cadeirydd y panel sy’n beirniadu’r llyfrau Cymraeg yng nghategorïau cynradd ac Uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2023. Ef yw sylfaenydd y wefan wych Sôn am Lyfra Mae wedi bod yn siarad gyda ni am sut mae ei gariad at ddarllen wedi datblygu dros y blynyddoedd.

Cefais fy magu ar gyrion tref hanesyddol Conwy yng ngogledd Cymru. Ar ôl treulio pum mlynedd yn dysgu mewn ysgol gynradd yn Nyffryn Conwy enillais ysgoloriaeth i wneud PhD yn edrych ar ffyrdd newydd o gefnogi ac annog plant i ddarllen a mwynhau llenyddiaeth Gymraeg.  

A bod yn hollol onest, doeddwn i ddim yn ddarllenydd mawr pan oeddwn in ifanc, er i Mam druan drio ei gorau glas i fy mherswadio.

 

Faswn i byth wedi dewis darllen nofel bryd hynny, ond roeddwn i’n mwynhau edrych ar lyfrau ffeithiol fel gwyddoniaduron a llawlyfrau – enwedig unrhyw beth oedd yn ymwneud ag awyrennau, llongau a threnau.

Un llyfr dwin cofio ei ddarllen yn rheolaidd ydi Gwyddoniadur Mawr y Plant. Roeddwn i wrth fy modd yn dysgu sut mae pethaun gweithio a dwin meddwl bod llyfrau ffeithiol wedi magu fy chwilfrydedd am y byd sydd on cwmpas.  

Pan oeddwn in dysgu, roeddwn in cadw llygad ar lyfrau i blant er mwyn gallu awgrymu teitlau ir disgyblion eu darllen yn ogystal â dewis nofelau dosbarth fyddain apelio atynt. Gan fod y rhan helaeth or plant ddim yn siarad Cymraeg gartref, roedd hin her gyson i geisio eu denu i ddarllen llyfrau Cymraeg byd oedd yn anghyfarwydd iawn ir plant au rhieni.  

Ar ôl gadael dysgu, roedd gen i dipyn mwy o amser i gadw golwg ar yr holl lyfrau newydd a phenderfynais rannu fy ngwybodaeth a fy marn gyda rhieni ac athrawon, felly sefydlais y wefan Sôn am Lyfra gyda fy mhartner Llio.

Dwi’n adolygu llyfrau Cymraeg hen a newydd i blant a phobl ifanc ac yn adolygu pob un yn onest ac yn ddwyieithog, gan obeithio y bydd yn gymorth i bobl ddewis teitlau addas. Mae yna lyfrau gwreiddiol ac addasiadau ardderchog yn cael eu cyhoeddi ac mae yna lwyth o glasuron yn casglu llwch ar ein silffoedd. 

Dwin teimlo fy mod i wedi colli allan braidd drwy beidio â darllen mwy tra oeddwn yn yr ysgol, ac erbyn hyn dwin teimlo fod gen i lot o waith dal i fyny iw wneud.

Dwi wedi gwirioni gyda nofelau T. Llew Jones a Gareth F. Williams a dwin difaru peidio eu darllen ynghynt. Petawn i ond wedi mentro eu darllen pan oeddwn i yn yr ysgol! Ond dwin meddwl ei bod hin hynod o bwysig fod plant a phobl ifanc yn dewis y llyfrau iawn ar gyfer darllen er pleser, a dwin falch o weld bod mwy o amrywiaeth yn dechrau ymddangos yn ein llenyddiaeth yng Nghymru syn beth da iawn in darllenwyr ifanc. 

Mae darllen mor bwysig ar gyfer pob rhan o fywyd – fedra i ddim pwysleisio hynny ddigon! Maen hyrwyddo creadigrwydd, yn bwydo dychymyg iach ac yn cynnig sgiliau trosglwyddadwy a defnyddiol ar gyfer y byd gwaith, megis datrys problemau.  

Mae wir yn fraint cael fy ngwahodd i fod yn feirniad ar gyfer gwobr mor bwysig â Gwobr Tir na n-Og. Maen ffordd wych o roi cyhoeddusrwydd i lyfrau newydd yn ogystal â dod â thipyn o sylw ir byd llenyddiaeth plant ehangach yng Nghymru.