Nia Morais

Nia Morais

Mae Nia Morais yn awdur ac yn gynorthwyydd addysgu. Fel un o feirniaid Gwobrau Tir na n-Og 2021, mae wedi bod yn siarad gyda ni am ei gwaith ysgrifennu a beth mae’n hoffi ei ddarllen.  

Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd a dwin gweithio fel cynorthwyydd addysgu yng Nghaerdydd yn ogystal â gwneud gwaith ysgrifennu llawrydd. Dwin hoff o ysgrifennu i bobl ifanc ac o ddarllen ac ysgrifennu testunau arswyd. Perfformiwyd fy nrama gyntaf, Carafangau, fel rhan o gyfres o ddramâu clywedol Theatr y Sherman ddiwedd Hydref 2020. 

 Dechreuais i ddarllen pan o’n i’n ifanc iawn a dwi’n cofio darllen yn y car, mewn bwytai, a hyd yn oed yn y stadiwm yn ystod gemau rygbi. Ro’n i’n dwlu ar lyfrau fel Inkheart gan Cornelia Funke a The Little White Horse gan Elizabeth Goudge. Ro’n i’n darllen yn y gwely pob nos ac yn cuddio pentwr o lyfrau o dan fy nghlustog oedd yn fwy trwchus na’r glustog ei hun.

 

Dwi wastad wedi bod yn hoff o ysgrifennu a darllen llenyddiaeth i bobl ifanc ac yn gobeithio gallu ysgrifennu nofelau fy hun yn y dyfodol. Mae fy nrama gyntaf, Crafangau yn adrodd hanes merch 17 oed syn darganfod panther yn y goedwig ger ei chartref – dwin hoff iawn o storïau hudolus neu frawychus fel hyn. 

Dwi’n caru llyfrau i blant gan eu bod yn pwysleisior hud a lledrith sydd yn dal ar gael yn y byd, ac yn dysgu egwyddorion caredig a chymunedol trwy anturiaethau ffantastig a doniol. Dwi hefyd yn dwlu ar y lluniau anhygoel sydd iw cael mewn llyfrau plant! 

Dwi’n meddwl fod darllen yn bwysig iawn i blant a phobl ifanc oherwydd maen helpu magu dychymyg ac egwyddorion, yn ogystal â dangos bod ffyrdd i fwynhau eich hun sydd ddim yn dibynnu ar foddhad sydyn fel hwnnw ryn nin ei gael ar ein ffonau a’n cyfrifiaduron. Dwi’n gwerthfawrogi fod darllen yn ffordd o ddianc o’r byd, ac yn gobeithio bod plant syn joio darllen yn gallu dod i werthfawrogi hyn hefyd. 

Dwin edrych ymlaen at weld pa fath o deitlau cyffrous sydd wedi cael eu cyhoeddi’n ddiweddar! Mae poblogrwydd llyfrau Cymraeg yn tyfu i fod yn fydeang erbyn hyn a dwi’n gobeithio gallu gwobrwyo llyfrau anhygoel syn dathlu ac yn rhoi sylw i bob math o blant Cymraeg a Chymreig.