Sara Yassine

Beirniaid Tir na n-Og 2023: Sara Yassine

Helô, fy enw i yw Sara a dwi’n byw yng Nghaerdydd. Ers graddio gyda gradd mewn hanes dwi wedi gweithio yn y cyfryngau, yn y byd addysg fel athrawes, a nawr dwi’n gweithio yn y gwasanaeth sifil. Byddwn i wrth fy modd yn ychwanegu ‘llyfrgellydd’ at y rhestr swyddi rywbryd!

Dwi wastad wedi bod yn hoff o ddarllen. Roedd llyfr yn fy nwylo drwy’r dydd pan oeddwn yn iau, ac roeddwn i hyd yn oed yn fonitor y llyfrgell ysgol ar un adeg. Roeddwn i’n mynd i’r llyfrgell leol ger fy nhŷ i’n aml hefyd ac yn benthyg cymaint o lyfrau ag y medrwn (o’r hyn dwi’n ei gofio, 10 oedd y mwyaf ar un tro – er mawr siom i mi). Fel llawer o blant eraill, fy hoff awdures oedd Enid Blyton ond roeddwn i’n mwynhau llyfrau Jacqueline Wilson a Roald Dahl hefyd.

Roedd gen i ddychymyg byw fel plentyn – rhywbeth a oedd yn bendant yn gysylltiedig â’r holl ddarllen. Mae darllen hefyd yn grêt er mwyn gwella eich geirfa a’ch dull ysgrifennu, ac os ydych chi’n dewis y llyfrau cywir, gallwch ddod yn fwy caeth iddyn nhw nag i’ch ffôn symudol.

Er yr holl ddarllen wnes i fel plentyn, roedd y llyfrau i gyd yn rhai Saesneg. Bellach dwi’n ceisio dal i fyny a darllen mwy yn y Gymraeg, gan ei fod yn ffordd hawdd iawn o wneud yn siŵr fod yr iaith yn rhan o  ’mywyd bob dydd. Dwi’n mwynhau darllen fy hoff genres yn y Gymraeg, ac yn methu credu ei bod hi wedi cymryd cyhyd i mi i’w darganfod nhw!

Mae’n fraint, felly, cael bod yn rhan o’r panel eleni. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth sydd ar gael i blant heddiw, a hefyd gweld yr hyn y collais allan arno – er, dwi’n siŵr bydda i’n mwynhau darllen lot ohonyn nhw fel oedolyn!