Alun Horan

Alun Horan

Yn blentyn roeddwn i’n dwlu ar ddarllen a hanes, ac yn naturiol, felly, brenin tŷ ni oedd T Llew Jones. Dwi’n dal i gofio’r wefr o ddarllen ei lyfrau, a sylweddoli bod pethau mawr, diddorol wedi digwydd fan hyn yng Nghymru, ac nid dim ond yn Lloegr. 

Atgof cynnar arall am fyd llyfrau yw cystadlu yn yr ornest flynyddol Y Cwis Llyfrau. Hyd heddiw dwi’n rhyfeddu ar gofio ambell fanylyn anhygoel am lyfrau fel ‘D.P.B. Un yn Galw!’ gan Urien Wiliam a Gwerfyl Gam gan Gwenno Hywyn! Mae’n rhaid bod nhw wedi creu cryn dipyn o argraff ar y pryd, a chyfle amhrisiadwy i fodio llyfrau Cymraeg newydd.  

Ers 2006 mae Heno wedi creu rhaglenni a phecynnau ar lyfrau rhestr fer gwobr Tir na n-Og. Braint yw bod wedi gallu gweithio ar y ddarpariaeth yma ers 15 mlynedd, a gweld yr amrywiaeth anhygoel o lyfrau i blant a phobl ifanc sy’n cael eu cynhyrchu yn Gymraeg bob blwyddyn.

Profiad arbennig dros y blynyddoedd yw cael cyfweld â’r awduron ar y rhestr fer a gweld eu hangerdd dros greu llyfrau i blant.  

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i fod yn feirniad Tir na n-Og eto eleni – mae’r wobr yn rhoi llwyfan holl bwysig i ddathlu awduron a llyfrau plant yn yr iaith Gymraeg.

Gyda thair o ferched oed cynradd yn y tŷ, mae beirniadu’r wobr hefyd yn gyfle i Dad i ddarllen storïau, ac i roi’r teitlau amrywiol gerbron y gynulleidfa darged!