Ceri Griffith

Ceri Griffith

Fy enw i yw Ceri Fflur Griffith, a dwi’n 22 oed.

Cefais fy magu ar fferm ger Pentir yng ngogledd Cymru. Wedi i mi dderbyn addysg yn Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug, penderfynais astudio gradd BA mewn Cymraeg a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl tair blynedd werthfawr a difyr yno, dwi wedi dewis aros yn y ddinas am flwyddyn arall er mwyn astudio gradd MA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Dwi wedi bod wrth fy modd yn darllen ers pan oeddwn yn blentyn bach; yn aml byddai pentwr o lyfrau’n codi wrth ochr fy ngwely gan nad oedd digon o le ar y silff a oedd yn orlawn o lyfrau fy chwaer a finnau! Llyfrau llawn hud a lledrith oedd orau gen i, ac roeddwn i’n aml yn ymgolli yn y straeon ac yn ceisio dynwared y cymeriadau. Roeddwn hefyd yn cael hwyl yn ysgrifennu’n greadigol yn yr ysgol ac yn fy amser rhydd, a chefais y cyfle i barhau i ysgrifennu yn y brifysgol wrth astudio modiwlau perthnasol megis ‘Sgriptio’ ac ‘Ysgrifennu Creadigol’.

Yn ystod fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol, cefais y cyfle i astudio’r modiwl Llenyddiaeth Plant. Dwi wedi cael blas ar weld sut mae llenyddiaeth plant a’r syniad o blentyndod wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd, a dwi wedi dysgu am bwysigrwydd dylanwad llenyddiaeth ar blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddod i adnabod y byd o’u cwmpas. Wedi cwblhau’r modiwl a’i fwynhau’n fawr, dwi’n awyddus i barhau i ddarllen ac astudio llyfrau plant yn y Gymraeg, yn ogystal â phwysleisio’r hwyl a’r creadigrwydd ddaw o’u darllen.

Dwi’n gwerthfawrogi cael bod yn aelod o’r panel y flwyddyn hon yn fawr, ac yn edrych ymlaen at ddarllen yr ystod eang o destunau! Mae’r gwobrau hyn yn hollbwysig er mwyn hybu llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yn y Gymraeg, yn enwedig wrth annog rhagor o awduron i gyflwyno testunau amrywiol a difyr. Mae’n gyfle gwych i blant ymgyfarwyddo ag awduron talentog sy’n awyddus i’w cynrychioli’n deg, yn ogystal â’u diddanu.