Hywel James, Cadeirydd

Hywel James, Cadeirydd Gwobrau Tir na n-Og 2021

Hywel James yw Cadeirydd y panel sy’n beirniadu’r llyfrau Cymraeg yng nghategorïau cynradd ac uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2021. Yn gyn Brif Lyfrgellydd Gwynedd, mae llyfrau wedi bod yn rhan o’i fywyd ers yn blentyn. Bu’n siarad gyda ni am ei gysylltiad hir â’r byd llyfrau.

Wedi i mi gymhwyso fel llyfrgellydd yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru (syn rhan o Brifysgol Aberystwyth erbyn hyn) gweithiais i Gyngor Gwynedd, yn gyntaf fel llyfrgellydd plant ac yna fel prif lyfrgellydd Gwynedd am dros ugain mlynedd cyn ymddeol. 

Yn ddiweddar rwyf wedi gwirfoddoli fel llyfrgellydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd, Llanystumdwy yn rhannol gan fy mod eisiau cefnogir gwaith pwysig o feithrin awduron a beirdd newydd a chefnogir rhai mwy profiadol.

Rhai o fy atgofion cynharaf o lyfrau a darllen yw fy nhad yn darllen Llyfr Mawr y Plant i mi cyn mynd i gysgu – roedd yn un or ychydig lyfrau i blant Cymru oedd yn cynnwys darluniau lliw bryd hynny a Mam yn fy nghyflwyno i gymeriadau The Wind in the Willows wedi iddi fenthyg copi or llyfrgell. 

Pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd byddwn in edrych ymlaen at dderbyn cyflenwad newydd o lyfrau or Gwasanaeth Llyfrgell Ysgolion, ac yn mwynhau storïau antur T. Llew Jones, gan feithrin fy niddordeb mewn chwedlau a hanes, a hanes Cymru yn arbennig.  

Fy nghyfnod o 15 mlynedd fel llyfrgellydd plant oedd yr hapusaf drwy gydol fy ngyrfa; roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno llyfrau ar mwynhad o ddarllen i blant. Roedd y profiad hwn yn cyd-fynd yn berffaith hefyd â magu dau o blant (hogyn a hogan), ac felly roedd modd gwneud yn hollol siŵr bod gan y ddau ohonynt ddigon o lyfrau yn ein cartref gorchwyl pleserus iawn. 

Mae plant yn naturiol chwilfrydig a llawn dychymyg, a thra bod angen bwydo hynny mae hefyd dyletswydd arnom i gyflwyno gwybodaeth am y byd go iawn. Roeddwn yn ffodus dros ben o gael rhieni ac athrawon oedd yn ymwybodol o bwysigrwydd darllen ac etifeddais yr un agwedd at lyfrau 

Rwyn credun gryf iawn y gall llyfrau drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Yr her i bob rhiant, athro a llyfrgellydd yw cael y llyfr iawn ar yr adeg gywir ir darllenydd ifanc, fel bod modd ateb y galw ar y pryd. Gall cynnwys y cyfrolau hynny fod yn lluniau, storïau, barddoniaeth neu ffeithiau, cyn belled â bod y cyfan yn cael ei gyflwynon greadigol mewn ffordd addas a derbyniol ir darllenydd.

Fel llyfrgellydd, rwyn ymwybodol iawn or angen i gynnal safon yr hyn sydd yn cael ei gyflwyno i ddarllenwyr. Detholiad yn unig or llyfrau sydd ar gael y mae modd i ni eu gosod ar silffoedd y llyfrgell gyhoeddus, ac felly mae angen sicrhau bod y cyfrolau a brynir o ansawdd da.

Mae gwobrau, fel Tir na n-Og, yn un ffordd o gynnal y safon orau ymysg y ddarpariaeth i blant a phobl ifanc, ac felly mae bod yn feirniad yn fraint arbennig iawn. Mae bod yn feirniad hefyd yn cynnig cyfle i drafod llyfrau gydag eraill sydd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd llyfrau o safon dda i blant a phobl ifanc gorchwyl pleserus arall. 

AELODAU ERAILL PANEL BEIRNIADU 2021