Helȏ! Fy enw i yw Katie. Dwi’n ddeunaw mlwydd oed ac yn dod o Borth Tywyn. Ar hyn o bryd dwi’n astudio am radd mewn Llenyddiaeth Saesneg a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe.
Dwi wedi bod yn ddarllenwr brwd ers yn blentyn, pan oeddwn yn gwirioni ar straeon Julia Donaldson a Roald Dahl. Wnes i erioed ddychmygu y buaswn i’n astudio Saesneg, ond ers astudio Llenyddiaeth Saesneg at Safon Uwch mae fy niddordeb a’m cariad at y pwnc wedi tyfu.
Yn ogystal ag astudio, dwi’n gweithio’n rhan-amser fel Barista. Dwi wrth fy modd yn gweini coffi i’r cwsmeriaid. Dwi’n mwynhau’r swydd am fod pob diwrnod yn wahanol, a’i bod mor braf cyfarfod â phobl newydd a chlywed am eu hynt a’u helynt.
Mae mynd i’r theatr a gwylio perfformiadau byw yn bleser pur. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio dramâu a gweithiau eraill, ond mae rhywbeth mor arbennig am wylio stori’n cael ei pherfformio ac yn dod yn fyw. Fy hoff sioe gerdd yw Les Misérables (a’r nofel ei hun gan Victor Hugo!) a dwi wir yn mwynhau gweithiau William Shakespeare. Does unman gwell na Chymru am theatr ac actio.
Arweiniodd fy hoffter o ddarllen at fy angerdd am ysgrifennu ac asesu gwaith pobl eraill. Mae’r gwahoddiad i adolygu llyfrau ar ran Cyngor Llyfrau Cymru wedi rhoi’r cyfle i mi ddarllen amrywiaeth o lyfrau, o ran genre ac arddull, a bydd hyn o fudd mawr i mi yn y dyfodol. Dwi o’r farn ei bod hi’n bwysig iawn bod pawb yn cael mynediad at lenyddiaeth, a hynny o’r crud. Trwy gydweithio â‘r Cyngor Llyfrau byddaf yn cefnogi eu gwaith yn hyrwyddo llenyddiaeth yng Nghymru.
Tra byddaf yn astudio at fy ngradd, dwi’n bwriadu ailddysgu Cymraeg, fel bod yr iaith yn dod yn rhan o fy mywyd bob dydd. Cefais flas mawr ar lyfr yr oeddwn yn ei adolygu’n ddiweddar, sef Llyfr Croeseiriau Cymraeg-Saesneg. Roeddwn yn gallu ei gwblhau yn Gymraeg neu’n Saesneg – rhywbeth sy’n bwysig i mi.
Dwi’n llawn cyffro i fod ar banel Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2024, a dwi’n hynod falch o’r cyfle!