Lydia Bundy

Lydia Bundy

Helô! Fy enw i yw Lydia ac rwy’n athrawes ysgol gynradd sydd newydd gymhwyso, gan arbenigo mewn awtistiaeth.

Cefais fy magu yng nghymoedd de Cymru cyn symud i Brifysgol Loughborough i gwblhau gradd meistr mewn Daearyddiaeth. Dychwelais i dde Cymru yn 2019 lle dechreuais fy ngyrfa ym myd addysg. Cefais fy mhrofiad cyntaf fel cynorthwyydd addysgol yn fy ysgol anghenion dysgu ychwanegol leol a’m hysbrydolodd i fod yn athrawes. Rwyf wedi graddio eleni o’r rhaglen TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac rwyf bellach wedi cael swydd ANG yn yr un ysgol lle’r oeddwn yn gynorthwy-ydd addysgol, felly rwy’n cyflawni fy mreuddwyd o gael dysgu a chefnogi’r plant gwych a ysbrydolodd fy antur addysgu yn y lle cyntaf.

Fy atgofion cynharaf o ddarllen oedd fel plentyn ifanc yn ystod gwyliau’r haf, lle byddwn yn dewis amrywiaeth o lyfrau yn y siop leol er mwyn eu darllen yn y car ar y teithiau hir i arfordir gorllewinol Ffrainc, a’u mwynhau tra ein bod yno. O oedran ifanc, roedd darllen yn brofiad hudolus a oedd yn fy nghludo i fyd arall wedi’i lenwi â chreaduriaid chwedlonol a gwledydd rhyfeddol.

Wrth i mi ddechrau fy mhrofiad ANG, mae llyfrau wedi bod yn arf gwych sydd wedi fy ngalluogi i gysylltu â’m dysgwyr newydd, a meithrin perthynas gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd a gwerth llyfrau plant. O fewn fy hyfforddiant TAR, canolbwyntiais yn benodol ar rôl darllen er mwyn pleser i gefnogi lles disgyblion, yn enwedig ar ôl pryder a thrawma COVID-19. Drwy ymchwil o’r fath, roeddwn yn gallu nodi pwysigrwydd amgylcheddau darllen cymdeithasol o fewn yr ystafell ddosbarth i gefnogi hyder plant wrth ddarllen yn uchel, i drafod cymeriadau a chynlluniau straeon gyda chyd-gyfoedion, yn ogystal â chael cyfle ac amser tawel i ymlacio a dianc o’r byd go iawn yn ystod amser darllen annibynnol.

Fel panelydd Tir na n-Og rwy’n ysu am gael archwilio a thrafod y rhychwant o lyfrau cyffrous sydd wedi’u cyflwyno. Rwy’n edrych ymlaen hefyd at archwilio’r holl gysylltiadau Cymreig a gynrychiolir o fewn y llenyddiaeth wych.