Shw mae! Fy enw i yw Rhys Dilwyn Jenkins a dwi’n 29 oed. Cefais fy magu ym Mhort Talbot, ond dwi bellach yn byw ger Caerdydd. Ers graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, dwi’n gweithio fel cyfieithydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Roeddwn i’n mwynhau darllen yn arw pan oeddwn i’n iau. Wedyn roedd prysurdeb fy mywyd gwaith yn golygu nad oeddwn i’n gadael llawer o amser i ddarllen, ond fe wnaeth cyfnodau cynnar y pandemig ailgynnau’r sbarc hwnnw i mi, a llwyddais i fwynhau darllen unwaith eto. Oherwydd hynny, creais gyfrif Instagram lle dwi’n ysgrifennu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Mae hi mor hyfryd cael rhannu fy hoff lyfrau â phobl. Pan nad ydw i’n darllen, dwi’n canu mewn côr o’r enw Allegro yng Nghastell-nedd, a dwi hefyd yn mynd i ddosbarth dawnsio tap yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.
Mae’r gallu i ddarllen llyfrau Saesneg a Chymraeg wedi bod yn rhywbeth dwi wedi’i drysori-roedd tyfu i fyny mewn ardal Saesneg yn golygu na chefais gyfle i ddarllen unrhyw lyfrau Cymraeg pan oeddwn yn iau. Ers dod yn rhugl yn y Gymraeg yn y brifysgol, dwi wedi gallu profi’r llawenydd a ddaw yn sgil darllen llenyddiaeth Gymraeg. Rydyn ni mor ffodus fel siaradwyr Cymraeg ein bod ni’n gallu darllen llyfrau mewn dwy iaith; mae ’na rywbeth mor arbennig am hynny.
Ymunais â chlwb Llyfrau Lliwgar yng Nghaerdydd yn ddiweddar, lle rydyn ni’n trafod llyfrau a ysgrifennwyd gan amrywiol awduron, ac mae themâu allweddol y storïau hyn yn canolbwyntio ar faterion LHDTC+. Mae’n brofiad hyfryd cael trafod y storïau hyn yn agored ac yn onest gyda grŵp mor gyfeillgar, ac mae’n wych cael darllen llyfr na faswn i’n bersonol wedi dewis ei ddarllen fel arall. Dwi’n edrych ymlaen at bob cyfarfod.
Mae’n fraint cael fy ngwahodd i fod ar banel beirniaid Gwobrau Tir na n-Og eleni, a dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddarllen yr holl lyfrau a gweld beth sydd gan awduron Cymru i’w gynnig!