Simon Fisher

Beirniaid Tir na n-Og 2023: Simon Fisher

Mae Simon Fisher yn athro ysgol gynradd ac yn flogiwr llyfrau o Wrecsam. Mae’n gefnogwr brwd o ddarllen er mwyn pleser yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y ffordd y gall cymunedau darllen feithrin ymdeimlad o berthyn.

“Roedd yn anrhydedd wirioneddol ymuno â phanel beirniadu Tir na n-Og yn 2022; mae gan Gymru rychwant eang a chyfoethog o lyfrau i blant, fel mae’r rhestrau byrion y blynyddoedd blaenorol wedi’u dangos. Ers darllen rhai testunau eiconig o Gymru pan o’n i’n berson ifanc, rwy’n gwybod bod darllen yn ffordd o’m cysylltu â’m gwlad. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi’i annog yn fy mhlant fy hun, a thrwy wefan familybookworms rydym wedi tynnu sylw at lyfrau o’r safon uchaf gan awduron, darlunwyr a chyhoeddwyr o Gymru. Dwi wrth fy modd yn rhannu straeon, ac mae darllen yn uchel yn fraint ddyddiol.

Fel athro a rhiant, mae’n anrhydedd bod yn rhan o gymuned ddarllen frwdfrydig a lledaenu’r mwynhad rwy’n ei gael drwy rannu straeon, ysbrydoli pobl ifanc, ymgysylltu ag awduron a darganfod llyfrau newydd.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddarganfod ceisiadau eleni a chael sgyrsiau difyr a chyfoethog ynghylch y rhestr fer.”