Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2023

 

Dathlu pa mor unigryw yw bob plentyn a’r pwysigrwydd o dderbyn yr hyn sy’n eich gwneud chi’n rhyfeddol oedd themâu’r llyfrau ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2023. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y Gwobrau Cymraeg yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin ar ddydd Iau, 1 Mehefin 2023 a’r Wobr Saesneg ar raglen The Review Show ar Radio Wales ar nos Wener, 2 Mehefin 2023.

 

Y tri llyfr a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2023 oedd Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol), Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Jones (Y Lolfa) a The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (Hodder & Stoughton).

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol 2022) oedd yn fuddugol yn y categori Cymraeg oedran cynradd 2023. Dyma lyfr stori-a-llun sy’n llawn direidi a dychymyg. Mae’r prif gymeriad eisiau bod yn ddeinosor, neu’n “robot, roced, crocodeil neu ddraig” – i enwi dim ond rhai pethau ar ei restr! Yn hytrach na gweld y gwahaniaethau rhyngddo ef a’r creaduriaid eraill yn y llyfr, mae’n dod i sylweddoli ei fod yn unigryw yn ei ffordd ei hun – a does neb yn debyg iddo. A dyma, wrth gwrs, beth sy’n ei wneud yn arbennig. Mae hwn yn llyfr modern, doniol a lliwgar iawn sy’n trafod neges bwysig – rwyt ti’n ddigon da fel ag yr wyt ti

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yn 2023 oedd Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies (Y Lolfa 2022). Gan gychwyn gyda darganfod corff marw, mae darllenwyr yn sylweddoli’n fuan iawn bod y llyfr hwn yn un llawn dirgelwch. Yna, rydym yn cwrdd â bachgen ifanc o’r enw Manawydan Jones sy’n wahanol i’r plant eraill mae’n eu hadnabod yn yr ysgol – ond dydy hynny ddim yn beth drwg. Dyna beth sy’n ei wneud e’n arbennig – yn ogystal â’r ffaith ei fod yn perthyn i Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. A’r sylweddoliad hwn yw dechrau’r antur gyffrous.

Ond nid llyfr antur ffantasïol yn unig yw Manawydan Jones – mae hi hefyd yn stori deimladwy am deulu, cyfeillgarwch, hunaniaeth a pherthyn. Mae’n cyflwyno cymeriadau dewr, cryf a chofiadwy sy’n pwysleisio’r neges bwysig o ‘ddilyn eich llwybr eich hun’. Dyma nofel gyffrous sy’n croesi’r ffin rhwng y byd go iawn a’r byd hudol: dehongliad modern a ffres o hen chwedlau’r Mabinogi sy’n eu cyflwyno i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

 

CATEGORI SAESNEG

The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (Hodden & Stoughton, 2022) – stori ffantasi llawn cyffro, wedi ei gosod mewn cyfnod pan oedd teyrnasoedd Cymru yn gyforiog o hud a lledrith a gwrthdaro – ddaeth i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2023 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

 

CATEGORI NEWYDD 2023: DEWIS Y DARLLENWYR

Eleni, cyflwynodd Cyngor Llyfrau Cymru elfen newydd i’r gwobrau, sef Dewis y Darllenwyr – tlws arbennig sy’n cael ei ddyfarnu gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og. Yr enillwyr yn y tri chategori oedd:

CATEGORI CYMRAEG – CYNRADD

Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)

CATEGORI CYMRAEG – UWCHRADD

Powell gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

CATEGORI SAESNEG

The Mab gan awduron amrywiol, golygwyd gan Eloise Williams a Matt Brown, darluniwyd gan Max Low (Unbound)

 

MANYLION PELLACH