Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cyn hynny, bu’n was sifil uwch gyda Llywodraeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a LlyfrgelloeddCymru oddi fewn Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Yn gyn-Gadeirydd Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru, bu’n Gadeirydd Cyngor Darlledu Addysg BBC Cymru rhwng 1999–2003 ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru rhwng 2016–2020.
“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno a’r Bwrdd a chyfrannu at ddatblygu llais cryf ar gyfer gwaith allweddol y Cyngor Llyfrau yng Nghymru. Mae llawer wedi newid ers 2020 a bydd angen sector cyhoeddi sy’n uchelgeisiol ac yn barod i arloesi i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn cynyddu’r cyfleoedd i godi llythrennedd a hybu cynulleidfaoedd newydd trwy ddefnyddio’r cyfryngau digidol a bydd yn bleser mawr i mi fel ymddiriedolwr i fod yn rhan o waith y Cyngor Llyfrau.”
Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Ddarlithydd mewn Cyhoeddi yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar y radd MA mewn Cyhoeddi. Mae ganddi ddoethuriaeth ar ddarllen, ysgrifennu a chyhoeddi ffuglen gyfoes, oedd yn cynnwys gweithio gyda grwpiau darllen ar draws y Deyrnas Unedig yn ogystal â chyfweliadau gydag awduron a chyhoeddwyr. Cyn symud i’r maes academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, yn cynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press. Ochr yn ochr â’i gwaith dysgu, mae’n Olygydd Arbennig gyda Biteback Publishing ac yn Uwch-olygydd Ymgynghorol gyda Lynne Rienner Publishers yn Colorado ers 2015.
“Rydym ar derfyn blwyddyn hynod anodd, gyda llyfrgelloedd ac ysgolion ar gau am gyfnodau hir, a heriau penodol i gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr annibynnol. Ni fu gwaith Cyngor Llyfrau Cymru o ran hyrwyddo darllen a rhoi cymorth i’r diwydiant llyfrau gwych yng Nghymru erioed yn fwy hanfodol. Fel rhywun sy’n ddigon ffodus i fod wedi treulio gyrfa ym myd y llyfrau ac sydd bellach â swydd yn addysgu cyhoeddwyr ifanc, rwy’n angerddol am genhadaeth y Cyngor Llyfrau ac mae gallu gwneud cyfraniad fel ymddiriedolwr newydd yn anrhydedd.”
Mae Gerwyn Wiliams yn Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ers 2005, a bu’n gweithio yn Ysgol y Gymraeg ers 1989. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt ers 2019 ac yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws ers 2018. Yn gyn-enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol (1994) a Gwobr Llyfr y Flwyddyn (1997), mae hefyd wedi beirniadu nifer o gystadlaethau llenyddiaeth yn cynnwys Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Bu’n aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2010–16.
“Fel un sy’n credu’n angerddol ym mhwysigrwydd llenyddiaeth, rwy’n croesawu’n fawr y cyfle hwn i ymuno â bwrdd Ymddiriedolwyr newydd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwn o brofiad mor allweddol yw gwaith y corff cenedlaethol uchel ei barch hwn yn cynnal ac yn cefnogi byd llyfrau Cymru – boed awduron neu ddarllenwyr, gweisg neu siopau llyfrau. Mewn cyfnod mor amrywiol ei heriau â hwn, edrychaf ymlaen at gynorthwyo’r Cyngor i barhau’n gorff cynaliadwy, cyfredol a pherthnasol i’r dyfodol.”
Dewch i glywed mwy am y llyfrau gwych a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 yn y cyfres yma o gyfweliadau, sgyrsiau a darlleniadau gan yr...
Dwy nofel gyfoes ac un hanesyddol ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021, gyda merched dewr yn serennu ymhob un o’r tri llyfr buddugol. Y tri llyfr ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021 oedd Sw Sara Mai gan Casia Wiliam...
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol drwy gofio eich dewisiadau a'ch ymweliadau. Drwy glicio "Derbyn Oll", rydych yn cytuno i'r defnydd o holl gwcis. Fodd bynnag, gallwch weld "Gosodiadau Cwcis" i roi dewis fwy reoledig.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Mae'r wefan yma y ndefnyddio cwcis yn gwella eich profiad wrth lywio'r wefan. O'r rhain, mae'r rhai a ddynodir yn "angenrheidiol" yn cael eu storio yn eich porwr gwe gan eu bod yn hanfodol i'r ffordd mae'r wefan yn gweithio. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis eraill i ddadansoddi sut mae ein ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Caiff y cwcis yma eu storio yn eich porwr gwe gyda'ch bendith chi. Mae gennych yr opsiwn i wrthod y cwcis yma, ond gall eu gwrthod effeithio eich profiad o ddefnyddio'r wefan.
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.