Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi manylion y prosiectau a ariennir yn ail flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd Newydd, gyda phrosiectau ar hyd a lled Cymru yn rhannu cronfa o £400,000 yn ystod 2023/24.
Ariennir Grant Cynulleidfaoedd Newydd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Pwrpas y grant yw cryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Roedd grantiau o hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau a mentrau newydd yng Nghymru ar gyfer:
- datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o gefndiroedd diwylliannol amrywiol, neu grwpiau a dangynrychiolir yng Nghymru, gan roi’r cymorth a’r cyfleoedd y gallai fod eu hangen arnynt i gael eu cyhoeddi yng Nghymru;
- targedu cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru drwy ddatblygu deunydd gwreiddiol a/neu ddefnyddio cyfryngau neu fformatau nad ydynt yn cael eu hariannu ar hyn o bryd;
- sefydlu busnes cyhoeddi neu gyhoeddiad a fydd yn cryfhau ac yn sicrhau amrywiaeth i’r hyn a gynigir yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dyma rai prosiectau sydd wedi derbyn arian:
Afterlight Comics
Mae Afterlight Comics yn cydweithio â chreadigwyr Cymreig lleol i drawsnewid chwedlau o lên gwerin Cymru yn nofel graffig. Drwy gydweithio ag artistiaid ac awduron o Gymru, y nod yw rhoi bywyd newydd i’r straeon traddodiadol hyn, gan eu haddasu i fformat sy’n ddeniadol i’r llygaid. Nod y fenter hon yw rhoi sylw i ddiwylliant a threftadaeth Cymru, gan wneud llên gwerin oesol yn hygyrch ac yn ddiddorol i ddarllenwyr modern.
Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
Bydd hyd at 15 o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn cydweithio â mentoriaid i ddatblygu eu sgiliau ysgrifenedig a fydd, maes o law, yn arwain at gyhoeddi eu gwaith. Gyda chymorth a chefnogaeth dau fentor profiadol, bydd amrywiaeth o ffurfiau ysgrifenedig (yn dibynnu ar yr unigolyn) yn cael eu creu a’u datblygu gan bobl ifanc rhwng 10 a 28 mlwydd oed; boed yn adroddiadau digri, yn gerddi neu’n straeon byrion, i sicrhau bod lleisiau ieuenctid cefn gwlad Cymru i’w clywed mewn cyfrol wedi ei chyhoeddi.
Prosiect ‘Gypsy Writers’: Ehangu Dealltwriaeth Ddiwylliannol, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani
Mae prosiect ysgrifennu creadigol arloesol newydd y Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, ‘Gypsy Writers’, wedi gwahodd ceisiadau gan awduron newydd o Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan ymestyn y rhaglen hynod lwyddiannus Gypsy Maker, bydd pedwar awdur newydd yn cael eu comisiynu, sydd ddim wedi cyhoeddi (ar-lein nac mewn print) o’r blaen. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gomisiynu awdur blaenllaw o Sipsiwn, Roma a Theithwyr i lywio datblygiad ysgrifennu newydd drwy gynnig mentora un-i-un wedi’i deilwra, gweithdai rhyddiaith a barddoniaeth, a hyfforddiant diwydiant-benodol.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i Cymru Greadigol, unwaith eto rydyn ni wedi gallu ariannu rhai prosiectau cyffrous trwy’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd. Rydym yn falch o allu adeiladu ar lwyddiannau blwyddyn gyntaf y grant a gweld prosiectau’n datblygu am yr ail flwyddyn. Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi medru gweithio gyda phartneriaid newydd sbon y tro hwn, a fydd yn dod â thalent a syniadau newydd i’r byd cyhoeddi yng Nghymru, yn apelio at gynulleidfaoedd newydd ac yn creu newid parhaol yn ein sector.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu parhau i gefnogi’r cynllun hwn. Mae’r cyllid hwn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad drwy’r grant i dros £1 miliwn a bron i 70 o brosiectau gwahanol ledled Cymru.
“Mae blwyddyn gyntaf y Grant Cynulleidfaoedd Newydd wedi creu cyfleoedd cyffrous ar gyfer cydweithrediadau a phartneriaethau newydd. Rydw i’n dymuno’r gorau i’r holl brosiectau newydd ac yn edrych ymlaen at weld eu cyflawniadau.”
Mae manylion y prosiectau sydd wedi derbyn y grant ar wefan y Cyngor Llyfrau: Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru