Dros 40 o brosiectau yn derbyn arian Cynulleidfaoedd Newydd

Dros 40 o brosiectau yn derbyn arian Cynulleidfaoedd Newydd

Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi dros 40 o brosiectau sy’n rhannu cronfa o £500,000 yn nhrydedd flwyddyn y Grant Cynulleidfaoedd Newydd

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r 44 prosiect ledled Cymru sydd wedi derbyn arian trwy’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn 2024.

Derbyniwyd ceisiadau am brosiectau gwerth bron £1 filiwn ar gyfer cronfa o £500,000. Arian gan Lywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol oedd hwn, gyda’r nod o gefnogi a datblygu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Gwahoddwyd ceisiadau o dan dair thema: rhaglenni hyrwyddo a marchnata llyfrau sy’n cyrraedd darllenwyr newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg; rhoi cyfleoedd i leisiau newydd o fewn gwasanaethau newyddion a chylchgronau poblogaidd; a datblygu a chyhoeddi cynnwys newydd sy’n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Ymhlith y prosiectau i dderbyn arian mae’r canlynol:

Atebol: Prosiect hyrwyddo cyfrolau i oedolion gwasgnod newydd Sebra i gynulleidfaoedd newydd
Bydd Atebol yn adeiladu ar lwyddiant cynnar Sebra, eu gwasgnod newydd a chyfoes sydd â ffocws cryf ar ddatblygu cynulleidfaoedd a thalent newydd. Bydd yn cynnwys pecyn creu deunydd digidol blaengar i hyrwyddo llyfrau, prosiect gweledol a gweithio gyda chwmni allanol arbenigol i ddatblygu arddull cloriau Sebra.

Material Queer
Bydd Material Queer yn comisiynu ystod o newyddiadurwyr Cymraeg neu o Gymru i gyflwyno erthyglau mewn fformatau archwiliadol megis fideo neu sain er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws llwyfannau amryfal, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd yr alwad am gyflwyniadau yn digwydd ledled y wlad. Bydd y newyddiadurwyr a ddewisir yn cael cyfleoedd ar gyfer cysylltiad a dysgu a byddant yn cael eu mentora trwy gydol eu comisiwn. Nod Material Queer yw arallgyfeirio nid yn unig y newyddion, ond pwy sy’n ei adrodd a sut, yng Nghymru; gan greu newid strwythurol pwysig a fydd yn y pen draw yn cryfhau’r diwydiant.

Urdd Gobaith Cymru
Bwriad yr Urdd yw cynnig cyfle i ddatblygu a mentora person ifanc i gyfrannu cartwnau i gylchgrawn Cip a meithrin doniau a sgiliau fydd yn cyfrannu at y byd cyhoeddi yng Nghymru yn y dyfodol. Byddwn yn cynnig cyfleoedd mentora gydag unigolion profiadol ac ysbrydoledig gyda’r nod o ddatblygu’r gallu i ddweud stori drwy gyfrwng geiriau a darluniau.

Seren Books: Newid o’r Tu Fewn
Drwy’r prosiect hwn, bydd Seren yn penodi unigolyn ar ddechrau ei yrfa sydd â phrofiad byw o hiliaeth, ablaeth a/neu dlodi fel Golygydd Desg yn Seren lle byddant yn cael profiad uniongyrchol o weithio yn y fasnach lyfrau yng Nghymru. Bydd y rôl yn cynnwys uwchsgilio mewn golygu copi a golygu creadigol trwy fentora a chwrs hyfforddi byr. Gyda chymorth mentor, byddant hefyd yn arwain prosiect i gomisiynu teitlau ffuglen a ffeithiol newydd gan awduron sydd wedi cael profiad byw o hiliaeth, ablaeth a/neu dlodi trwy alwad agored. Yna bydd yr awduron llwyddiannus a’r Golygydd Desg yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu cynigion yn gynigion cyhoeddi ar gyfer rhaglen gyhoeddi Seren 2025/26.

Lucent Dreaming: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl
Bydd Lucent Dreaming yn comisiynu a datblygu blodeugerdd ddwyieithog o’r enw Beyond/Tu Hwnt: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl, wedi’i golygu gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi. Bydd y llyfr yn cynnwys gwaith dros 20 o gyfranwyr. Bydd y prosiect yn datblygu ysgrifennu i’w gyhoeddi gan awduron Byddar ac Anabl. Nod y flodeugerdd hon yw creu gofod ar gyfer, ac i roi ar gadw, leisiau cyfoethog ac amrywiol y Gymru gyfoes ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru am gefnogi’r gronfa hollbwysig hon eto, yn enwedig mewn blwyddyn pan fydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael cymaint o effaith ar y busnesau a’r mentrau sydd wedi derbyn grantiau. Roedd y gystadleuaeth am y grant eleni yn uwch nag erioed gyda llawer o geisiadau rhagorol, ac er nad oedd yn bosib i ni ariannu pob un, roeddem yn falch iawn o weld cymaint o gynigion creadigol, blaengar yn cael eu cyflwyno. Rydym yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r prosiectau cyffrous hyn ar ddiwedd y flwyddyn.”

Ers 2022 mae Cymru Greadigol wedi cefnogi’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd gyda chyllid o dros £1.5 miliwn, yn cefnogi dros 100 o brosiectau gwahanol ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Sarah Murphy: “Mae cefnogi dros 100 o brosiectau o dan ein Grant Cynulleidfaoedd Newydd yn gyflawniad mor wych. Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i leisiau newydd ac amrywiol gael eu clywed ledled Cymru a thu hwnt.

“Mae nifer y ceisiadau o ansawdd uchel a dderbyniwyd yn dangos bod galw gwirioneddol am y cyllid hwn, i ddatblygu a chefnogi ymhellach ddiwydiant cyhoeddi sy’n cynrychioli Cymru gyfan. Pob lwc i bawb sy’n cael cefnogaeth drwy’r gronfa.”

Mae rhestr lawn o’r prosiectau sydd wedi derbyn arian yn y rownd yma i’w gweld ar wefan y Cyngor Llyfrau: Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru