Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt
Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt: Arddangos Cymru yn ffair gynnwys fwyaf y byd
Bydd gan Gymru bresenoldeb yn Ffair Lyfrau Frankfurt fis Hydref eleni am yr ail flwyddyn yn olynol, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cydlynu presenoldeb Cymruyn y ffair i hyrwyddo’r llyfrau a’r awduron gorau o Gymru ar lwyfan rhyngwladol.
Cynhelir Ffair Lyfrau Frankfurt bob blwyddyn ym mis Hydref a hi yw’r ffair gynnwys fwyaf yn y byd, gyda chynrychiolaeth o wledydd o bob cwr o’r byd yn teithio i’r Almaen i arddangos y gorau o’u llyfrau a’u llenyddiaeth ar draws pob genre.
Denodd y digwyddiad diwylliannol allweddol hwn 4,000 o arddangoswyr o 95 o wledydd yn 2023, yn ogystal â thros 100,000 o ymwelwyr masnach o 130 o wledydd.[1] Trwy fynychu, gall cyhoeddwyr yng Nghymru gwrdd â chynrychiolwyr o ddiwydiannau creadigol eraill, fel ffilm a gemau, yn ogystal â chyhoeddwyr eraill, i drafod cydweithredu, hawliau a thrwyddedu, ac i feithrin perthnasoedd.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod yn cydlynu Cymru yn Frankfurt eleni a mynychu ochr yn ochr â’n cydweithwyr cyhoeddi i ddathlu llenyddiaeth o Gymru a’i chyflwyno i’r byd.
“Mae’r sector cyhoeddi dwyieithog yng Nghymru yn rhan o’r economi sylfaenol sy’n sector blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o fewn y Diwydiannau Creadigol. Diolch i Lywodraeth Cymru, mae cyhoeddwyr o Gymru yn cael y cyfle hwn i wneud cysylltiadau busnes newydd o bob rhan o Ewrop a’r byd, i gyfnewid syniadau ac agor marchnadoedd newydd ar gyfer llyfrau a chynnwys o Gymru yn y ddwy iaith.”
Dywedodd Owain Saunders-Jones o gwmni cyhoeddi Atebol: “Mae Ffair Lyfrau Frankfurt yn gyfle arbennig i arddangos diwydiant cyhoeddi Cymru i’r byd cyhoeddi ehangach.
“Yn genedl sy’n llawn creadigrwydd a thalent, mae’n bwysig fod buddsoddiad yn parhau i gefnogi swyddi a’r iaith. Dyma ddiwydiant sy’n rhoi mwynhad, addysg, ymdeimlad o berthyn, a seiliau cadarn i lythrennedd a phob pwnc arall i’n plant. Beth allai fod yn fwy pwysig?”
Dywedodd Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyhoeddwyr ac awduron Cymru ac mae’n newyddion da y byddant yn cael eu cynrychioli eleni eto yn Frankfurt. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r ddirprwyaeth o Gymru wrth iddynt geisio sicrhau bod mwy o eiriau a straeon o Gymru yn cael eu clywed a’u darllen ledled y byd.”
Mae Ffair Lyfrau Frankfurt ar agor rhwng 16 a 20 Hydref 2024. Gallwch ddarganfod mwy am y ffair yma: Frankfurter Buchmesse | Home