![Podlediad newydd Sut i Ddarllen – sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen](https://llyfrau.cymru/wp-content/uploads/2021/01/screenshot-961x675.png)
Podlediad newydd Sut i Ddarllen – sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen
Podlediad newydd Sut i Ddarllen – sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen
Mae cyfres podlediad newydd sbon, Sut i Ddarllen, yn cael ei lansio heddiw, dydd Llun 10 Chwefror 2025, gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Mewn cyfres chwe phennod, bydd Francesca Sciarrillo yn sgwrsio am ddarllen gyda gwesteion arbennig. Mae’r sgyrsiau gonest yn trafod pob math o agweddau ar ddarllen – o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywyd bob dydd.
Ymysg y gwesteion sy’n rhannu atgofion ac argymhellion darllen mae Sion Tomos Owen, Kayley Roberts a Manon Steffan Ros. Sion Tomos Owen ydy gwestai’r bennod gyntaf, ac mae’n trafod darllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd tuag at gomics a chariad at lyfrgelloedd.
Mae Francesca Sciarrillo yn Swyddog Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru. Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd a hithau’n gyd-gyflwynydd rhaglen gelfyddydol Y Sin ar S4C a cholofnydd i gylchgrawn Lingo Newydd a Lingo 360.
Meddai Francesca: “Fel un sy’n llyncu llyfrau, roedd hi’n bleser cael sgwrsio gyda gwesteion mor arbennig, a dod i ddeall mwy am eu perthynas nhw gyda llyfrau. Roedd yn amrywio o’u hatgofion darllen cyntaf i’w harferion darllen heddiw, o’r llyfrau hynny nad oedd modd iddynt eu rhoi lawr i’r llyfrau hynny sydd dal heb eu gorffen. Mae’r sgyrsiau yn ddadlennol ac yn ddifyr a dwi methu aros i’w rhannu!”
Meddai Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn credu yng ngrym trawsnewidiol darllen er pleser a’i effaith gadarnhaol ar ein lles a’n hiechyd meddwl. Rydym wrth ein boddau yn cyflwyno’r podlediad newydd yma sy’n cynnig gofod i drafod darllen a llyfrau o bob math, ac yn dangos nad oes na un ffordd gywir o fwynhau darllen a bod yna lyfr i bawb.”
Ffilmiwyd y penodau ar leoliad yn Tramshed Tech, Caerdydd ac yn Y Shed, Y Felinheli.
Mae modd gwrando ar y podlediad ar amryw o blatfformau ffrydio yn cynnwys Y Pod ac AM, neu gwylio’r gyfres ar YouTube. Bydd pennodau eraill y gyfres ar gael yn wythnosol.
Dolen linktr: https://linktr.ee/sutiddarllen