
Sêr y Silffoedd: ymweliadau awdur yn ysbrydoli darllenwyr ifanc
Mae plant ysgol ledled Cymru wedi bod yn cyfarfod ag awduron plant poblogaidd mewn cyfres o weithdai arbennig a gynhaliwyd yn eu llyfrgelloedd lleol.
Ariannwyd cynllun Sêr y Silffoedd gan Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Fe’i sefydlwyd fel partneriaeth gyda llyfrgelloedd ac ysgolion i ddod â darllenwyr ifanc ynghyd ag awduron ar gyfer gweithdai sy’n dathlu llyfrau a darllen. Yn ystod y cynllun, a gynhaliwyd rhwng Ionawr a Mawrth 2025, mae dros 5,000 o ddysgwyr o 126 o ysgolion ledled Cymru wedi cymryd rhan.
Canfu adroddiad ymchwil diweddar gan y National Literacy Trust: “Mae mwy o blant a phobl ifanc a oedd wedi bod yn rhan o sesiwn awdur yn dweud eu bod nhw’n mwynhau darllen yn eu hamser hamdden o’i gymharu â’u cyfoedion nad oeddynt wedi bod mewn sesiwn awdur (58.6% o’i gymharu â 39.3%).”
Sefydlwyd y cynllun er mwyn i blant gyfarfod ag awduron mewn gweithdai creadigol, i danio eu dychymyg ac i ysbrydoli darllen. Y nod hefyd oedd darparu mwy o gyfleoedd i ysgolion a llyfrgelloedd ddod â phlant allan o’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’w llyfrgell leol. Fel rhan o’r cynllun, rhoddwyd cyfraniad at gostau trafnidiaeth er mwyn galluogi dysgwyr o ysgolion mewn ardaloedd gwledig i fynychu sesiynau.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym mor falch bod y bartneriaeth wych hon wedi galluogi cymaint o blant i gymryd rhan yn y gweithdai arbennig hyn. Dangoswyd bod ymweliadau awdur yn ddull pwerus o helpu plant i gysylltu â llythrennedd, a, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac ymroddiad y llyfrgellwyr, mae dros 5,000 o blant wedi gallu cyfarfod awduron yn bersonol, a mwynhau gweithgareddau a thrafodaethau i ysbrydoli darllen. Diolch i’r holl ysgolion, llyfrgelloedd ac awduron sydd wedi helpu i wneud y gweithdai hyn yn bosibl.”
Cynhaliwyd gweithdai mewn 74 o lyfrgelloedd gyda dros 30 o awduron, gan gynnwys Mari Lövgreen, Anni Llŷn a Siôn Tomos Owen.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Hazel Evans: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hollol anhygoel wrth ddod ag awduron, llyfrgelloedd ac ysgolion at ei gilydd mewn triongl perffaith. Roedd yr ymgysylltiad rhwng yr awduron a’r plant yn gadarnhaol ac yn gyffrous, gyda chanlyniadau ysbrydoledig iawn. Mae’n brosiect sy’n meithrin cysylltiadau yn y daith at ddarllen er pleser, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, yn ysgogol ac yn ysbrydoledig.”
Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg / An English-language version of this document is also available.