
Cyhoeddi Enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2025
The Twelve gan Liz Hyder (cyhoeddwyd gan Pushkin Children’s Books) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2025 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.
Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd brynhawn dydd Mercher 21 Mai yn Ysgol Penglais School, Aberystwyth gan y cyflwynydd Sara Gibson, gyda chynulleidfa o ddysgwyr o’r ysgol yn cael y cyfle i gwrdd â rhai o’r awduron oedd ar y rhestr fer.
Mae The Twelve yn stori freuddwydiol dywyll, hudolus i oedolion ifanc. Pan mae Libby, chwaer Kit, yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear yn ystod gwyliau teuluol, a does neb arall i’w weld yn ei chofio, mae Kit yn cychwyn ar daith beryglus i ddarganfod y gwir. Mae’r stori hon yn lapio’r darllenydd mewn hud a lledrith a llên gwerin hynafol – yn eich llusgo i ddyfnderoedd eich dychymyg ac yn eich swyno gyda’i hysgrifennu telynegol.
Dywedodd Liz Hyder: “Rwy’n ei theimlo hi’n anrhydedd fawr i ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Ganed The Twelve allan o gariad dwfn at fyd natur, ac mae’n llythyr caru at Gymru a’i thirweddau. Roedd y rhestr fer yn wych ac roeddwn wedi synnu fy mod arni, hyd yn oed. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddathlu gyda phaned fawr o de Cymreig!”
Dywedodd Cadeirydd y panel Saesneg, Elizabeth Kennedy: “Llongyfarchiadau i Liz ar ennill y wobr eleni. Mae The Twelve yn stori sy’n tynnu’r darllenydd i ganol byd hudolus hanes, llên gwerin a natur Cymru. Mae’n gyfuniad perffaith o ysgrifennu gafaelgar, darluniau prydferth a chefndir Cymreig, sydd yn golygu mai hi yw enillydd haeddiannol y wobr eleni.”
Y teitlau eraill ar y rhestr fer categori Saesneg oedd:
- Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly)
- Cynefin, Wales and the World – Today’s Geography for Future Generations gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
- Megs gan Meleri Wyn James, darluniwyd gan Shari Llewelyn (Y Lolfa)
Cyhoeddwyd hefyd enillydd Gwobr Saesneg Dewis y Darllenwyr 2025. Gwobr arbennig yw hon, wedi’i dewis o deitlau’r rhestr fer gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobr Tir na n-Og. Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori Saesneg yw Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly).
Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.
Dywedodd Sue Polchow, Rheolwr Datblygu Cymuned – CILIP Cymru Wales: “Fel y sefydliad aelodaeth ar gyfer llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol yng Nghymru, rydym yn falch i noddi Gwobrau Tir na n-Og unwaith eto yn 2025. Mae’r rhain yn gwobrwyo llyfrau unigryw sydd yn helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y pleser o ddarllen straeon rhagorol o Gymru ac am Gymru. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron buddugol!”
Cyhoeddir enillwyr y ddau gategori Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2025 yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam ar ddydd Mawrth 27 Mai.
Mae rhagor o fanylion am Wobrau Tir na n-Og ar wefan y Cyngor Llyfrau: llyfrau.cymru