
Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2025 – Gardd o Straeon
Gardd o Straeon – Lansio Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru, i helpu darllenwyr ifanc i feithrin eu sgiliau darllen
Yr wythnos diwethaf, ymunodd disgyblion o ysgolion Blaenau Ffestiniog, y Drenewydd a Chaerdydd ag awduron arobryn llyfrau plant mewn digwyddiadau arbennig yn eu llyfrgelloedd lleol, i lansio Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru.
Roedd y digwyddiadau yn dathlu thema’r Sialens eleni, sef ‘Gardd o Straeon’, lle mae creaduriaid hudol, chwedlau anhygoel a rhyfeddodau natur yn dod yn fyw. Gall plant ymuno â’r cynllun yn eu llyfrgell leol a darganfod anturiaethau darllen newydd trwy gydol yr haf.
Yn Llyfrgell Penylan, Caerdydd, bu disgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath yn mwynhau gweithdy gydag Ian Brown, awdur cyfresi llyfrau Albert the Tortoise a Hugg ’’n’’ Bugg, ac yn Llyfrgell y Drenewydd roedd Claire Fayers, awdur arobryn Welsh Giants Ghosts and Goblins, wedi ymuno â disgyblion Ysgol Calon y Dderwen i ddarganfod y creaduriaid hudolus sy’n cuddio yn y goedwig a’r cwm, ac yn ein gerddi ni ein hunain.
Bu Bethan Gwanas a disgyblion Ysgol Maenofferen yn trafod cyfres boblogaidd Cadi yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog. Bethan oedd enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones yn 2024 am ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant.
Dywedodd Bethan Gwanas: “Bore hyfryd efo plant Ysgol Maenofferen; mi wnes i fwynhau bob munud yn eu cwmni nhw (a dwi’n eitha siŵr eu bod nhw wedi mwynhau fy nghwmni innau). Mi brofodd eto pa mor bwysig ydi llyfrgelloedd a llyfrau – a chael cyfarfod awdur. Ac i awdur gael bod mewn llyfrgell efo llwyth o blant!”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i’r holl awduron, llyfrgelloedd, ysgolion a phlant am roi hwb arbennig i ddechrau Sialens Ddarllen yr Haf eleni! Mae llyfrgelloedd yn lleoedd gwych i ddarganfod llyfrau o bob math, a diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn falch iawn bod plant ledled Cymru yn cael y cyfle i fwynhau’r Sialens yn rhad ac am ddim, ac i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf.”
Dywedodd Lynne Neagle,Ysgrifennydd y Cabinet Dros Addysg: “Rydym yn ariannu Sialens Ddarllen yr Haf unwaith eto i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i fwynhau darllen yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r Sialens yn helpu i danio dychymyg plant a darganfod awduron a llyfrau newydd, yn ogystal â datblygu eu sgiliau darllen dros y gwyliau.”
Prif nod Sialens Ddarllen yr Haf, a drefnir gan The Reading Agency a’i weithredu gan lyfrgelloedd , yw cadw plant yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – a’r cyfan yn rhad ac am ddim o’u llyfrgell leol. Mae’r Sialens yn darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn barod am ddechreuad gwych i flwyddyn ysgol newydd yn yr hydref.
O ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf, gall ddarllenwyr ifanc 4–11 oed gofrestru yn eu llyfrgell leol neu ar-lein ar sialensddarllenyrhaf.org.uk. Rhaid darllen o leiaf chwe llyfr i gyflawni’r sialens – beth bynnag sydd yn apelio, boed yn straeon, nofelau graffig, llyfrau ffeithiol neu lyfrau llafar – mae popeth yn cyfri. Trwy’r Sialens mae plant yn gallu ennill gwobrau, darganfod llyfrau newydd, a derbyn medal a thystysgrif unwaith y bydd y Sialens wedi’i chwblhau.
Gyda thema newydd bob blwyddyn, mae’r Sialens wedi ei thargedu at blant 4–11 oed. Mae’n cefnogi’r oedran yma a’u teuluoedd drwy:
- Sicrhau bod dysgwyr yn barod pan ddaw’r amser i ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref.
- Cynorthwyo’r pontio llwyddiannus rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol.
- Gwella hyder a hunan-barch plant wrth gefnogi darllen annibynnol.
- Rhoi mynediad am ddim at lyfrau a gweithgareddau hwyliog i’r teulu dros yr haf.
Darperir Sialens Ddarllen yr Haf gan The Reading Agency. Fe’i cefnogir yng Nghymru gan Gyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. O 2025 ariennir y prosiect hwn gan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm, diolch i Lywodraeth Cymru.