Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn Ffair Lyfrau Frankfurt

Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt: Cyhoeddwyr Cymru i arddangos yn ffair gynnwys fwyaf y byd

Bydd cyhoeddwyr Cymru yn hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar lwyfan rhyngwladol unwaith eto yn Ffair Lyfrau Frankfurt ym mis Hydref. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Gymru gael presenoldeb yn Frankfurt, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, a’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Cynhelir Ffair Lyfrau Frankfurt bob blwyddyn dros bum diwrnod ym mis Hydref a hi yw’r ffair gynnwys fwyaf yn y byd, gyda chynrychiolaeth o bob cwr yn teithio i’r Almaen i arddangos y gorau o’u llyfrau a’u llenyddiaeth ar draws pob genre.

Yn 2024, denodd y digwyddiad diwylliannol allweddol hwn tua 230,000 o ymwelwyr gyda 4,300 o arddangoswyr o 92 o wledydd[1]. Eleni, bydd 15 cyhoeddwyr o Gymru yn mynychu er mwyn cwrdd â chynrychiolwyr o ddiwydiannau creadigol eraill, fel ffilm a gemau, yn ogystal â chyhoeddwyr eraill, i drafod cydweithredu, hawliau a thrwyddedu, ac i feithrin perthnasoedd.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru bydd stondin Cymru yn Frankfurt yn dychwelyd i Frankfurt eto eleni. Mae’r sector cyhoeddi dwyieithog yng Nghymru yn rhan o’r economi sylfaenol sy’n sector blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o fewn y Diwydiannau Creadigol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau presenoldeb Cymru yn y digwyddiad rhyngwladol pwysig hwn yn y calendr cyhoeddi, er mwyn hyrwyddo’n llyfrau a’n hawduron gorau o Gymru ar lwyfan rhyngwladol.”

Dywedodd Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant “Mae’n wych y bydd gan gyhoeddwyr Cymru bresenoldeb amlwg eto yn Ffair Lyfrau Frankfurt, un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf y byd. Mae cefnogaeth Cymru Greadigol a’r Cyngor Llyfrau ar gyfer y daith fasnach bwysig hon yn helpu i sefydlu sector cyhoeddi bywiog Cymru ar lwyfan rhyngwladol, a hynny wrth arddangos ein treftadaeth lenyddol gyfoethog.

 

“Gydag amrywiaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, ac ystod eang o gynnwys, mae ein cyhoeddwyr yn cynrychioli’r gorau o greadigrwydd Cymru, a bydd ein presenoldeb yn Frankfurt yn darparu llwyfan gwerthfawr iddyn nhw adeiladu partneriaethau newydd a chyrraedd cynulleidfaoedd byd eang. Dyna’r union fath o gefnogaeth sy’n helpu ein diwydiannau creadigol i barhau i dyfu a ffynnu.”

Mae Ffair Lyfrau Frankfurt ar agor rhwng 15 a 19 Hydref 2025. Gallwch ddarganfod mwy am y ffair yma: Frankfurter Buchmesse | Home

 

[1] https://www.buchmesse.de/en/about-us