Croesawu £350,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi

Croesawu £350,000 gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi derbyn £350,000 gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol fel rhan o’r £2.5miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025 i gefnogi’r diwydiannau creadigol.

Dosbarthwyd £335,000 yn uniongyrchol i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau sydd wedi derbyn Grant Cymorth Hanfodol yn seiliedig ar eu rhaglenni cyhoeddi. Bydd £15,000 ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau i greu mwy o gynnwys ymgysylltu â darllen i bobl ifanc.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am yr arian ychwanegol hwn sydd mor angenrheidiol. Mae’r arian unwaith-ac-am-byth hyn wedi ein galluogi ni i greu’r Grantiau Cymorth Hanfodol, a thrwyddyn nhw mae £335,000 wedi ei dalu’n uniongyrchol i gyhoeddwyr i’w cynorthwyo i oroesi’r cyfnod heriol yma, adeiladu rhywfaint o wydnwch yn y sector ac i hybu gwerthiant llyfrau.

 

“Rydym hefyd wedi sicrhau cyllid i’n Panel Pobl Ifanc dawnus a chreadigol er mwyn hyrwyddo mwy o lyfrau o Gymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n hynod gyffrous i drosglwyddo rheolaeth i’r panel a fydd yn datblygu cynnwys digidol i gyrraedd darllenwyr ifanc eraill, yn dathlu llyfrau o Gymru a’u rhannu nhw gyda’r byd.”

Dywedodd y Gweinidog dros Greadigol, Jack Sargeant: “Mae’r diwydiant cyhoeddi yn rhan hanfodol o stori greadigol Cymru ac rydym yn falch iawn o’r dalent sy’n bodoli ar draws y sector. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i warchod y diwydiant pwysig hwn, tra’n cydnabod yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor Llyfrau a’r sector ar hyn o bryd.

 

“O awduron, i ddarlunwyr, i olygyddion – mae ein cyhoeddwyr yn arddangos lleisiau Cymreig yn gyson ar lwyfan fyd-eang. Nid dim ond fel diwydiant sy’n ffynhonnell ddiwylliannol ac economaidd bwysig i Gymru, ond hefyd, gyda mentrau fel y Panel Pobl Ifanc, rydym yn meithrin y genhedlaeth nesa o ddarllenwyr a chrewyr, ac yn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn wlad lle mae llenyddiaeth yn ffynnu.

 

“Rydym yn parhau i gefnogi cyhoeddwyr, dathlu ein hawduron ac yn annog creu llyfrau o ansawdd uchel – llyfrau y gellid ymfalchïo ynddynt ar lefel ryngwladol.”