Her Ddarllen Tir na n-Og – Dathlu 50 mlynedd o’r gwobrau hynaf i lyfrau plant yng Nghymru

Barod am her?
Ymunwch â Her Ddarllen Tir na n-Og!
Dathlu 50 mlynedd o’r gwobrau hynaf i lyfrau plant yng Nghymru.
Heddiw, dydd Llun 16 Chwefror, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio Her Ddarllen Tir na n-Og i ddathlu 50 mlynedd anhygoel o lyfrau plant, ar raglen Prynhawn Da, ar S4C.
Bydd Francesca Sciarrillo, Swyddog Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau yn ymuno â’r rhaglen i drafod yr her, sydd yn dechrau blwyddyn o ddathlu yn 2026.
Mae’r heriau hwyliog yn mynd â darllenwyr o bob oedran ar antur ddarllen i’w chofio. Mae fersiynau gwahanol ar gael i blant, bobl ifanc ac i oedolion, gyda digon o ddewis o heriau i chi rannu gyda theulu neu ffrindiau.
Dywedodd Francesca: “Rydym yn hynod gyffrous i lansio’r her arbennig yma heddiw ac yn edrych ymlaen yn arw at flwyddyn o ddarllen llyfrau gwych, darganfod cymeriadau bythgofiadwy, a gadael i’n dychymyg grwydro! Rydym yn gobeithio bydd darllenwyr o bob oed yn ymuno gyda ni i gyflawni’r heriau – pwy sy’ ddim yn mwynhau darllen gyda ffrindiau neu ddychmygu golygfeydd arbennig o’u hoff lyfrau?
“Mae Gwobrau Tir na n-Og bellach wedi dathlu darllen a llyfrau arbennig i blant a phobl ifanc ers 50 mlynedd ac rydym yn gwybod bod darllen yn cynnig cymaint i ni. Does dim rhaid i ddarllen fod yn weithgaredd i’w wneud ar eich pen eich hun chwaith – rydym yn gobeithio bydd Her Ddarllen Tir na n-Og yn creu cymdeithas o ddarllenwyr wrth i ni gyflawni’r heriau yma gyda’n gilydd – yn ein cartrefi, ysgolion, llyfrgelloedd a’n cymunedau ledled Cymru.”
Mae taflenni Her Ddarllen Tir na n-Og ar gael i’w casglu o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol neu i’w lawrlwytho o wefan Cyngor Llyfrau Cymru: www.llyfrau.cymru. Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i Wasg Gomer am ei chefnogaeth hael yn argraffu’r taflenni heriau darllen.
Yn cefnogi’r Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In, mae Her Ddarllen Tir na n-Og yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau dathlu darllen ledled y DU. Prif nod ymgyrch ‘Ymgolli’ yw ysbrydoli pobl i fagu cariad at ddarllen gydol oes trwy ymgolli mewn llyfr a mwynhau darllen.
Gyda mis yn unig i fynd cyn cyhoeddi rhestrau byrion Gwobrau Tir na n-Og 2026, mae’r cyffro yn tyfu i weld pa lyfrau fydd yn y ras yn y flwyddyn arbennig hon. Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).
Rydym yn ddiolchgar i’n noddwyr am eu cefnogaeth. Noddir y gwobrau gan CILIP Cymru Wales. Cefnogir Gwobrau Tir na n-Og yn 2026 gan ein noddwyr hael Gwasg Gomer a Halen Môn. Ceir mwy o wybodaeth am Wobrau Tir na n-Og a’r dathliadau yn ystod 2026 ar wefan y Cyngor Llyfrau ar www.llyfrau.cymru
