£400,000 i greu cyfleoedd newydd a datblygu cynulleidfaoedd newydd yn y sector cyhoeddi yng Nghymru.
Heddiw, mae Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â Chymru Greadigol, wedi cyhoeddi manylion cronfa £400,000 i gynnig y Grant Cynulleidfaoedd Newydd am yr ail flwyddyn; i gryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.
Bydd grantiau hyd at £40,000 ar gael i sefydliadau neu fentrau newydd yng Nghymru ar gyfer:
- datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o gefndiroedd diwylliannol amrywiol neu grwpiau a dangynrychiolir yng Nghymru, gan roi’r cymorth a’r cyfleoedd y gallai fod eu hangen arnynt i gael eu cyhoeddi yng Nghymru;
- targedu cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru drwy ddatblygu deunydd gwreiddiol a/neu ddefnyddio cyfryngau neu fformatau nad ydynt yn cael eu hariannu ar hyn o bryd;
- sefydlu busnes cyhoeddi neu gyhoeddiad a fydd yn cryfhau ac amrywio’r diwydiant fel y mae ar hyn o bryd yng Nghymru.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Roedd y gronfa llynedd wedi ein galluogi i gefnogi mwy o fentrau ac ystod ehangach o brosiectau nag a feddyliwyd gennym. Mae’r prosiectau a ariannwyd, a oedd yn fwy na 40 y llynedd, yn dangos beth all ddigwydd pan fydd pobl yn cymryd yr awenau ac yn dod at ei gilydd i gydweithio, rhannu profiadau a chreu rhywbeth newydd.
Diolch i Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, gallwn ni gynnig y gronfa eto eleni a pharhau i adeiladu ar y gwaith hanfodol hwn.”
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru, trwy Cymru Greadigol, wedi gallu darparu cyllid i gefnogi’r Grant Cynulleidfaoedd Newydd eto eleni. Mae’r llu o wahanol brosiectau a dderbyniodd y cyllid yn 2022 wedi cyfoethogi’r byd cyhoeddi ac ysgrifennu, gan ddarparu llwyfannau a chyfleoedd i adrodd mwy o straeon sy’n adlewyrchu ehangder Cymru gyfan a bywyd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld hyd yn oed mwy o waith rhagorol yn y flwyddyn i ddod.”
Cewch fanylion ar sut i wneud cais ar wefan y Cyngor Llyfrau: llyfrau.cymru. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai 2023.