Eleni, mae naw awdur ifanc wedi gallu cymryd cam yn nes at wireddu eu huchelgais i ddod yn awduron cyhoeddedig, diolch i gymynrodd hael gan Marie Evans, oedd yn dymuno cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu.

Diolch i deulu Marie, roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn gallu trefnu encil ysgrifennu, er mwyn rhoi cyfle i awduron ifanc dreulio deuddydd yng nghwmni’r awdur Sioned Erin. Roeddent yn gallu cymryd amser i drafod ysgrifennu, rhannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau unigol gydag Erin i dderbyn ei sylwadau hi ar eu gwaith eu hunain. Mae’r grŵp hefyd wedi treulio amser gyda Phennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau, i gael cipolwg ar sut mae cyhoeddi yn gweithio a’r camau i’w cymryd i ddod yn awdur cyhoeddedig.

Dywedodd Caryl, a gymerodd ran yn y sesiynau, fod yr encil “wedi golygu cyfle i gamu allan o brysurdeb pob dydd a chymryd amser i wneud beth sydd mor bwysig i mi. Mae wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu eto.”

Dywedodd Megan fod yr encil wedi galluogi’r grŵp i “ysbrydoli ein gilydd, dathlu creadigrwydd a gwahaniaethau ein gilydd a derbyn cyngor ar y pethau anoddach am ysgrifennu creadigol.”

Enillodd Sioned Erin y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2022 gyda’i chyfrol o straeon byrion, Rhyngom. Hi arweiniodd yr encil, gan rannu ei phrofiadau ei hun o ddechrau fel ysgrifennwr i fod yn awdur cyhoeddedig arobryn.

Dywedodd Sioned Erin, “Y gweithdai hyn oedd rhai o’r cyntaf imi eu cynnal fel hwylusydd creadigol. Mae yna dipyn o leisiau blin yn eich pen ar y dechrau fel yna, ac mae rhywun yn aml yn cwestiynu a ydyn nhw’n ddigon da, ac yn ddigon profiadol, i gynnal gweithdai o’r fath. Ond wir, doedd dim angen imi boeni am un eiliad. Roedd y criw, a Bethan o’r Cyngor Llyfrau, mor hyfryd, mor gefnogol, ac yn eithriadol o weithgar, ac mae’r adborth wedi bod mor galonogol ac yn gymaint o hwb. Mae’r gweithdai hyn yn werthfawr tu hwnt i’r rhai sy’n mynychu, ond dwi’n prysuro i bwysleisio mor werthfawr ydyn nhw i’r sawl sy’n cynnal y gweithdai, hefyd. Diolch o galon am y cyfle.”

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Hoffem ddiolch o galon i deulu Marie am ein galluogi i gynnal yr encil ysgrifennu hwn er cof amdani. Bu Marie yn gweithio i’r Cyngor Llyfrau am dros 30 mlynedd, a’i dymuniad hi oedd cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu. Mae ei rhodd wedi rhoi cyfle i naw unigolyn ifanc weithio gydag awdur arobryn, ac i rannu eu profiadau, eu hysbrydoliaeth a’u syniadau gydag ysgrifenwyr ifanc eraill.”

Dewiswyd yr ysgrifenwyr yn dilyn galwad agored a gynhaliwyd yn 2023 yn gwahodd ysgrifenwyr ifanc 18–25 oed i gyflwyno cais gydag esiamplau o’u gwaith. Gwahoddwyd naw ysgrifennwr i gymryd rhan. Cynhaliwyd y sesiwn encil gyntaf ym mis Ionawr 2024, a chynhaliwyd yr ail ddiwrnod ym mis Mehefin. Rydym yn dymuno’r gorau i’r criw ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddynt barhau ar eu teithiau ysgrifennu.