Rhestr fer y categori Saesneg
Yr wythnos hon, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn datgelu’r llyfrau arbennig sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2025. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2024.
Heddiw, ddydd Iau 13 Mawrth, am 10.00am, cyhoeddwyd rhestr fer y categori Saesneg gan y cyflwynydd Melanie Owen a’r Cyngor Llyfrau ar eu sianelau cyfryngau cymdeithasol: Instagram @melowencomedy / @books.wales.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).
Rhestr fer y categori Saesneg:
Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly)
Straeon am gewri, ysbrydion a choblynnod o bob rhan o Gymru, a gasglwyd ac sy’n cael eu hailadrodd gan Claire Fayers. Mae cymeriad Idris y cawr yn gwau drwy’r gyfrol wrth iddo gasglu straeon ar gyfer ei antur.
Cynefin, Wales and the World – Today’s Geography for Future Generations gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Dechrau wrth ein traed ac ehangu gorwelion i bob cwr o’r ddaear yw nod y gyfrol ddaearyddiaeth hon. Mae’n ymestyn i gynnwys pynciau eraill fel hanes, llenyddiaeth, hunaniaeth a chelf. Y cynefin yw’r man cychwyn. Oddi yno, cawn ymestyn i weld Cymru gyfan a’i holl amrywiaeth. Yna, canfod lle ein gwlad ar wyneb y ddaear ac yn nyfodol y byd.
The Twelve gan Liz Hyder, darluniwyd gan Tom De Freston (Pushkin Children’s Books)
Roedd i fod yn brofiad braf i Kit – gwyliau yn y gaeaf ger yr arfordir gyda’i chwaer Libby a’u mam. Ond mae Libby yn diflannu oddi ar wyneb y ddaear … Gyda neb arall yn ei chofio, mae Kit yn wynebu realiti newydd – un lle nad oedd ei chwaer erioed wedi bodoli ynddo. Yna mae hi’n cyfarfod Story, y bachgen lleol sy’n cofio Libby yn iawn. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cychwyn ar daith y tu hwnt i’w dychymyg i fyd sydd wedi’i fritho â chwedlau hynafol.
Megs gan Meleri Wyn James, darluniwyd gan Shari Llewelyn (Y Lolfa)
Mae Megs yn ferch 10 oed, niwro-amrywiol. Mae hi’n byw efo’i mam a Beca, y cocapw, yn nhref Aberystwyth. Does ganddi ddim llawer o ffrindiau ond mae hi a Gwilym, sy’n byw drws nesaf, yn hen lawiau. Ond mae Gwilym yn diflannu ac mae ar Megs ofn mai ei bai hi yw’r cyfan. Dyma stori am gyfeillgarwch, ffyddlondeb, goddefgarwch ac am gael yr hyder i fwrw ’mlaen.
Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Saesneg eleni oedd Liz Kennedy (Cadeirydd), Karen Gemma Brewer, Kate Wynne ac Imogen Davies.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i awduron a darlunwyr yr holl lyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Rwy’n siŵr ei bod wedi bod yn dipyn o her i’r paneli beirniadu ddewis y rhestrau byrion o blith cymaint o lyfrau gwych, ac mae’r safon eleni yn uchel iawn. Pob lwc i bawb ar y rhestr fer ac edrychaf ymlaen at weld pa lyfrau fydd yn fuddugol yn yr haf.”
Datgelir y rhestr fer ar gyfer y categori Cymraeg Uwchradd am 7 nos Iau 13 Mawrth ar raglen Heno S4C.
Cyhoeddwyd rhestr fer y categori Cymraeg Cynradd ar nos Fawrth 11 Mawrth ar raglen Heno S4C.
Cyhoeddir yr enillwyr yn y tri chategori yn yr haf.
Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Barn y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Bydd llyfrgelloedd a siopau llyfrau yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch llyfrgell neu eich siop lyfrau leol am fanylion.
Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Mae’r datganiad newyddion hwn hefyd ar gael yn Saesneg / An English-language version of this news release is also available