Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio blwyddyn o ddathlu yn 2026 wrth i Wobrau Tir na n-Og droi’n 50.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru. Ers 1976 maent wedi dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen: “Mae gennym flwyddyn wych wedi ei threfnu i ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og. Bydd gwobrau Cymraeg a Saesneg 2026 yn cael eu cynnal dros y gwanwyn a’r haf, ac mae gennym galendr llawn-dop o weithgareddau a digwyddiadau bendigedig fel bydd modd i ddarllenwyr o bob oedran ymuno â ni i ddathlu 50 mlynedd o’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc.

 

“Mae’r paneli beirniaid wedi cwrdd yn barod i ystyried y cyfrolau a enwebwyd ar gyfer y gwobrau ac mae’n anhygoel gweld cymaint o lyfrau gwych yn gymwys eleni. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ddatgelu’r rhestrau byrion yn y gwanwyn a mwynhau’r dathliadau gydag ysgolion, siopau, llyfrgelloedd a darllenwyr dros y flwyddyn i ddod.”

Caiff Gwobrau Tir na n-Og eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales.

Mae aelodau’r paneli beirniaid wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn darllen y llyfrau a enwebwyd ar gyfer y gwobrau. Dan arweinaid Rhys Dilwyn Jenkins, Cadeirydd y panel Cymraeg, a Karen Gemma Brewer, Cadeirydd y panel Saesneg, mae wyth o feirniaid wedi ymgynull i drafod y teitlau dan sylw. Cwrdd ag aelodau’r paneli ar wefan y Cyngor Llyfrau. Beirniaid 2026 | Cyngor Llyfrau Cymru

Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).

Cyhoeddir y rhestrau byrion yn y gwanwyn, a cheir mwy o wybodaeth am Wobrau Tir na n-Og a’r flwyddyn o ddathlu 2026 ar wefan y Cyngor Llyfrau trwy’r flwyddyn ar llyfrau.cymru