Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.
Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros.
Meddai Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant y Cyngor, ‘Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd geiriau Manon yn un rhan o’r stori, ond gall y delweddau adrodd yr hyn sydd rhwng y bylchau, ac ychwanegu ati.’
Ychwanegodd, ‘Yn naturiol, byddwn yn chwilio am dalent weledol a chreadigol fydd yn apelio at gynulleidfa ifanc yn ogystal â’r oedolyn fydd yn rhannu’r stori. Byddwn hefyd yn asesu dawn yr ymgeiswyr i briodi testun a darluniau, a’u dealltwriaeth o naratif, rhediad y stori a’r cymeriadu.’
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Adran Grantiau’r Cyngor, ‘Mae rhai o lyfrau plant mwyaf eiconig Cymru yn llyfrau stori-a-llun, o gyfrolau Sali Mali i Rala Rwdins, ac mae datblygu darlunwyr sy’n gallu dweud stori wreiddiol ar gyfer y plant lleiaf yr un mor bwysig â datblygu awduron. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y gystadleuaeth hon yn help i feithrin to newydd o dalent yn y maes.’
Darperir testun y stori gan Swyddfa’r Eisteddfod a’r Cyngor Llyfrau. Ewch i dudalen 57 o’r Rhestr Testunau ar wefan yr Urdd am fanylion y gystadleuaeth. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2020.
Am ragor o wybodaeth am y daith, cysylltwch â Helen Jones, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB 01970 624151 helen.jones@llyfrau.cymru (Llun gan Keith Morris)