Bydd casgliad o lyfrau byr a bachog gan awduron o Gymru ar gael i’w lawrlwytho am ddim yr haf hwn.
O stori garu i gariad at gŵn anhygoel, ac o heriau rhedeg eithafol i fyd coll, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu bod y pedwar teitl diweddaraf yn y gyfres boblogaidd Stori Sydyn ar gael fel e-lyfrau mewn cydweithrediad â chyhoeddwyr y gyfres, y Lolfa a Rily.
Ac am gyfnod o un mis yn unig rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf 2020, bydd modd eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar blatfform digidol newydd amam.cymru.
Ymhlith yr awduron mae’r anturiaethwr eithafol Huw Jack Brassington, yr awdur Cynan Llwyd, y newyddiadurwr a’r darlithydd Ifan Morgan Jones, a’r awdur a newyddiadurwraig Alison Stokes.
Nod y cynllun Stori Sydyn/Quick Reads yw annog darllen yng Nghymru trwy gyfrwng teitlau byrion, gafaelgar sydd hefyd ar gael fel llyfrau clawr meddal o siopau llyfrau ac o wefan gwales.com am £1 yr un, neu drwy lyfrgelloedd.
Dywedodd Angharad Wyn Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen gyda’r Cyngor Llyfrau: “O ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, rydyn ni am y tro cyntaf yn cynnig llyfrau Stori Sydyn am ddim am gyfnod o fis fel e-lyfrau. Mae’r teitlau yma’n benthyg eu hunain yn berffaith i’r cyfnod anarferol hwn. Maen nhw’n dal ein dychymyg ac yn ein tywys i fyd arall, ond maen nhw’n ddigon byr i’w darllen mewn diwrnod neu eu codi’n achlysurol a’u mwynhau un bennod ar y tro. Beth sydd hefyd yn arbennig am y llyfrau Stori Sydyn yw eu bod yn addas ar gyfer ystod eang o ddarllenwyr yn ogystal â phobl sy’n llai tebygol o godi llyfr fel arfer.”
Dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru, caiff cynllun Stori Sydyn/Quick Reads ei gefnogi’n ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod deunydd gwreiddiol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd o ddiddordeb i gynulleidfa yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu’r teitlau hyn yn ddigidol ac am ddim yng ngoleuni’r pandemig cyfredol. P’un a yw’r rhain yn cael eu defnyddio fel ffordd o gefnogi dysgu, neu ddim ond fel ffordd o ddianc rhag realiti bob dydd, gall darllen fod yn rym pwerus, yn enwedig yn yr amseroedd rhyfedd a chythryblus hyn..
“Rhan o’n Cenhadaeth Genedlaethol yw darparu sgiliau llythrennedd lefel uchel i bob dysgwr sy’n ffurfio sylfeini pob dysgu ac y gellir eu trosglwyddo i fywyd pob dydd a byd gwaith. Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol o fewn Cwricwlwm Cymru 2022.”
O’r pedwar teitl sy’n cael eu cyhoeddi eleni, mae dau yn Gymraeg a dau yn Saesneg, gydag un llyfr ffuglen ac un ffeithiol yn y naill iaith a’r llall.
Herio i’r Eithaf – Huw Jack Brassington (Y Lolfa). Mae Huw Jack Brassington yn herio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf mewn rasys anhygoel o anodd ar draws y byd, fel y 47 Copa, y Pioneer a’r Coast to Coast. Mae ei stori’n mynd â ni i fyd triathlon, rhedeg a seiclo, ac mae’n dysgu gwersi caled ar hyd y daith.
Pobl Fel Ni – Cynan Llwyd (Y Lolfa). Mae digwyddiadau’r nofel yn ymestyn dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos, gydag agweddau a rhethreg hiliol, gwleidyddiaeth asgell dde a sefyllfa economaidd fregus yn gefnlen. Mae’n dilyn hanes Nathan a Sadia, sy’n gariadon, wrth iddyn nhw fynychu cyngerdd. Yn ystod y cyngerdd daw ffrwydrad ac mae’r ddau’n cael eu gwahanu.
Hidden Depths – Ifan Morgan Jones (Rily). Mae Rees wedi bod yn rhedeg i ffwrdd ar hyd ei oes. Ond pan wêl mai ffaith yn hytrach na ffuglen yw chwedl o’i blentyndod, mae’n cael ei dynnu’n ddyfnach i fyd cudd sy’n datgelu gwirionedd cythryblus – nid yn unig am ei bresennol, ond am ei orffennol hefyd. Mae’r dewis yn glir: dal yn ôl neu aros ac ymladd.
Dogs for Life – Alison Stokes (Rily). Yn aml, ein cŵn yw’n ffrindiau gorau ac maen nhw’n rhannu cwlwm arbennig gyda ni. Ond beth petai’ch ci yn fwy nag anifail anwes yn unig? Mae’r llyfr yma yn rhannu straeon am anifeiliaid sydd â swyddi pwysig iawn i’w gwneud, ac yn dangos sut mae rhai anifeiliaid anhygoel yn newid bywydau’r bodau dynol sy’n eu caru.
Bydd y teitlau ar gael i’w lawrlwytho am ddim o blatfform amam.cymru rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf, gyda chopïau clawr meddal ar gael i’w prynu am £1 o siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru neu o wefan gwales.com y Cyngor Llyfrau.
Gellir benthyg detholiad eang o lyfrau Stori Sydyn o lyfrgelloedd hefyd, naill ai fel e-lyfrau neu gopïau caled pan fyddan nhw’n ail gychwyn eu gwasanaeth.