Ddydd Gwener 7 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru. Bwriad y cynllun hwn yw sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc i fynegi barn ar ddeunydd darllen a themâu cyfredol, ynghyd â’u dyheadau am gyhoeddiadau yn y dyfodol. Yn ategol at hyn, fe fydd y panel yn ystyried ymgyrchoedd amrywiol i hyrwyddo darllen er pleser ymysg pobl ifanc.
Penodwyd yr aelodau i’r panel yn dilyn galwad agored yn ystod mis Chwefror eleni am unigolion rhwng 17 ac 20 oed. Yn sgil hynny, cafwyd nifer da iawn o geisiadau o safon arbennig gan bobl ifanc ledled Cymru. Byddai wedi bod yn braf medru dewis pob un ohonynt. Cafodd naw unigolyn eu gwahodd i ymuno â’r panel ac i fynychu’r cyfarfodydd. Dywedodd Anna Nijo, un o’r aelodau, “By joining this panel, I hope to increase the number of people who enjoy reading books, perhaps by supporting schools to encourage their pupils to engage with the school or local library.”
Yn sicr, mae’r criw ifanc yn llawn bwrlwm ac yn awchu i rannu syniadau ac adborth er mwyn sbarduno a siapio dyfodol cyhoeddi yng Nghymru. Esbonia Gruffydd ab Owain, “Fy ngweledigaeth o fod ar y panel yw ceisio pontio’r gwagle sy’n gallu ymddangos rhwng llyfrau plant a llyfrau oedolion, sicrhau cynhaliaeth ac estyniad amrywiaeth, yn ogystal ag archwilio strategaethau i ymgysylltu’n well â phobl ifainc heddiw.” Yn ychwanegol at hyn, fe fydd y panel yn rhannu gwybodaeth werthfawr er mwyn datblygu ymgyrchoedd hyrwyddo darllen er pleser yn y dyfodol. Dywed Charlie Evans, “Hoffwn sicrhau bod lleisiau ifanc wrth wraidd hyrwyddo llenyddiaeth. Rwyf wir yn edrych ymlaen at gydweithio â’r panel.”
Bydd y panel yn cwrdd dair gwaith yn flwyddyn, unwaith wyneb yn wyneb ac yna ddwywaith yn rhithiol. Llŷr Titus sy’n cadeirio’r panel. Mae Llŷr ei hun yn gwybod o brofiad pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n cynnal diddordeb darllenwyr yn ystod eu harddegau. Dywedodd Llŷr, “Fel un sydd sy’n cofio ei chael hi’n anodd dod o hyd i lyfrau Cymraeg yr oeddwn i’n eu mwynhau pan oeddwn i’n fengach, roeddwn i’n falch iawn o allu derbyn y cynnig i gadeirio’r panel. Dwi’n grediniol mai dim ond wrth siarad hefo pobl ifanc ac yn bwysicach oll gwrando arnyn nhw y medrwn ni ddysgu sut i wella’r ddarpariaeth ar eu cyfer nhw, a sut i’w helpu i gael blas ar ddarllen yn Gymraeg. Fy ngobaith i ydi y bydd cyfraniad y criw y bydda i’n eu cadeirio yn arwain at newid er gwell ac y bydd y bobl a’r mudiadau hynny sydd angen gwrando a dysgu yn gwneud hynny.”
Mae’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yn hynod o ddiolchgar i bob un o’r bobl ifanc ac i Llŷr Titus am eu hymrwymiad a’u mewnbwn gwerthfawr i sicrhau ein bod ni’n cefnogi’r diwydiant cyhoeddi ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd i ddarllen er pleser.