Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Gwahoddir plant ledled Cymru i ddewis gwisgo dillad cyfforddus i ddarllen, gan swatio’n glyd ac ymgolli mewn llyfr da ar Ddiwrnod y Llyfr® eleni, sy’n cael ei ddathlu ddydd Iau 6 Mawrth.

Fel rhan o’i neges i annog mwy o blant i brofi manteision darllen er pleser sy’n gallu newid bywydau, mae elusen Diwrnod y Llyfr yn darparu tocynnau llyfr gwerth £1 i blant ledled Cymru. Gallwch ddewis llyfr am £1 o blith nifer o lyfrau £1, neu ei roi tuag at gost llyfr arall o’ch dewis.

Mae detholiad newydd o lyfrau gwerth £1 wedi eu cyhoeddi ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2025. Y llyfr Cymraeg eleni yw Gwyrdd Ein Byd gan yr arbenigwr natur Duncan Brown, wedi ei ddarlunio gan Helen Flook a’i gyhoeddi gan Rily.

Gall darllenwyr ddarganfod ffeithiau diddorol am fyd natur a’r bywyd gwyllt anhygoel sydd o’n cwmpas, o bysgod hynafol yn Llyn Tegid i’r aderyn sy’n nythu mewn tyllau cwningod ar Ynys Sgomer, a’r coedwigoedd glaw sydd gennym yma yng Nghymru.

Eleni, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog darllenwyr ifanc i ddewis dillad cyfforddus i ddarllen ac ymgolli mewn llyfr gwych, boed hwnnw’n llyfr newydd am £1, yn hen ffefryn, neu’n llyfr y maen nhw wedi bwriadu ei ddarllen ers oesoedd.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ymwneud â dathlu darllen, ac eleni neges Diwrnod y Llyfr i ddarllenwyr o bob oed yw ‘Darllen dy Ffordd dy Hunan’. Rydyn ni’n credu bod hynny’n rheswm gwych dros ddewis pa lyfr bynnag rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n ei garu, cael eich hun yn gyfforddus, a mwynhau! Mae cymaint o lyfrau gwych ar gael, naill ai i’w prynu gyda thocyn llyfr gwerth £1, neu i’w benthyg o’ch llyfrgell leol.”

Ychwanegodd Cassie Chadderton, Prif Weithredwr Ddiwrnod y Llyfr®: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ymwneud â gwneud darllen yn hwyl ac yn hygyrch i bob plentyn. Rydym yn gwybod pan fydd plant yn mwynhau darllen, y bydd hyn yn cael effaith barhaol ar eu dyfodol. Mae’r neges ‘Darllen Dy Ffordd dy Hunan’ eleni yn ymwneud â grymuso plant i ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n ei garu a mwynhau ei ddarllen yn eu ffordd eu hunain, mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus iddyn nhw.”

Mae cwmni dillad Cymraeg, ani-bendod, wedi dylunio crys-T arbennig i ddarllenwyr i’w gwisgo er mwyn mwynhau darllen yn gyfforddus trwy’r flwyddyn. Rhoddir £1 o werthiant pob crys-T i gronfa arbennig a ddarperir gan y Cyngor Llyfrau i gefnogi’r ddarpariaeth o lyfrau i blant ar gyfer banciau bwyd yng Nghymru.

Rhwng 13 Chwefror a 23 Mawrth, mae modd i blant gyfnewid eu tocyn llyfr £1 am un o’r 15 llyfr sydd wedi’u creu yn benodol ar gyfer Diwrnod y Llyfr, yn eu siop lyfrau leol, llyfrgelloedd a manwerthwyr y stryd fawr, neu ei ddefnyddio fel cyfraniad o £1 tuag at unrhyw lyfr pris llawn neu lyfr llafar sydd ar gael gan y manwerthwyr sy’n rhan o’r cynllun.

 

Mae’r datganiad newyddion hwn hefyd ar gael yn Saesneg / An English-language version of this news release is also available

Dathlu tair blynedd o Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd

Dathlu tair blynedd o Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd

Yn 2025 rydym yn dathlu tair blynedd o Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd a sefydlwyd yn 2022 diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Ei diben oedd cryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Wrth lansio’r gronfa, roeddem yn chwilio am brosiectau a fyddai’n ysgogi newid parhaol yn ein sector, drwy greu cyfleoedd, cynyddu cynrychiolaeth a chefnogi busnesau.

Tair blynedd ac £1.5 miliwn yn ddiweddarach, mae’n Hadroddiad Effaith yn gallu edrych yn ôl ar dros 100 o brosiectau ledled Cymru. Ond mae’r straeon y tu ôl i’r ffigurau hyn yn bwysicach fyth wrth i ni weld sut mae’r grantiau wedi creu swyddi, cefnogi cyflog teg, hwyluso cydweithio, mentora lleisiau newydd a galluogi cyhoeddi deunyddiau diwylliannol newydd.

Hoffem ddiolch i Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’r gronfa drawsnewidiol hon, sydd â’r potensial i barhau i greu newid parhaol yn ein sector cyhoeddi er budd Cymru gyfan.

Darganfyddwch fwy am Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd a’r prosiectau mae’n eu cefnogi:

Adroddiad Effaith Cynulleidfaoedd Newydd

Prosiectau Cynulleidfaoedd Newydd: Grantiau | Cyngor Llyfrau Cymru

Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Podlediad newydd Sut i Ddarllen – sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen

Podlediad newydd Sut i Ddarllen – sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen

Mae cyfres podlediad newydd sbon, Sut i Ddarllen, yn cael ei lansio heddiw, dydd Llun 10 Chwefror 2025, gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Mewn cyfres chwe phennod, bydd Francesca Sciarrillo yn sgwrsio am ddarllen gyda gwesteion arbennig. Mae’r sgyrsiau gonest yn trafod pob math o agweddau ar ddarllen – o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywyd bob dydd.

Ymysg y gwesteion sy’n rhannu atgofion ac argymhellion darllen mae Sion Tomos Owen, Kayley Roberts a Manon Steffan Ros. Sion Tomos Owen ydy gwestai’r bennod gyntaf, ac mae’n trafod darllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd tuag at gomics a chariad at lyfrgelloedd.

Mae Francesca Sciarrillo yn Swyddog Hyrwyddo Darllen gyda Chyngor Llyfrau Cymru. Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd a hithau’n gyd-gyflwynydd rhaglen gelfyddydol Y Sin ar S4C a cholofnydd i gylchgrawn Lingo Newydd a Lingo 360.

Meddai Francesca: “Fel un sy’n llyncu llyfrau, roedd hi’n bleser cael sgwrsio gyda gwesteion mor arbennig, a dod i ddeall mwy am eu perthynas nhw gyda llyfrau. Roedd yn amrywio o’u hatgofion darllen cyntaf i’w harferion darllen heddiw, o’r llyfrau hynny nad oedd modd iddynt eu rhoi lawr i’r llyfrau hynny sydd dal heb eu gorffen. Mae’r sgyrsiau yn ddadlennol ac yn ddifyr a dwi methu aros i’w rhannu!”

Meddai Bethan Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn credu yng ngrym trawsnewidiol darllen er pleser a’i effaith gadarnhaol ar ein lles a’n hiechyd meddwl. Rydym wrth ein boddau yn cyflwyno’r podlediad newydd yma sy’n cynnig gofod i drafod darllen a llyfrau o bob math, ac yn dangos nad oes na un ffordd gywir o fwynhau darllen a bod yna lyfr i bawb.”

Ffilmiwyd y penodau ar leoliad yn Tramshed Tech, Caerdydd ac yn Y Shed, Y Felinheli.

Mae modd gwrando ar y podlediad ar amryw o blatfformau ffrydio yn cynnwys Y Pod ac AM, neu gwylio’r gyfres ar YouTube. Bydd pennodau eraill y gyfres ar gael yn wythnosol.

Dolen linktr: https://linktr.ee/sutiddarllen

MAE’R DDOGFEN HON HEFYD AR GAEL YN SAESNEG / AN ENGLISH-LANGUAGE VERSION OF THIS DOCUMENT IS ALSO AVAILABLE 

Cyfarchion y Nadolig 2024

Cyfarchion y Nadolig 2024

Cyfarchion y Nadolig 2024

Bydd y Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Llun, 23 Rhagfyr 2024 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd iau, 2 Ionawr 2025.

Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

Dewis dillad cyfforddus i ddarllen ar Ddiwrnod y Llyfr® yng Nghymru

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc, 2024

Heddiw, dydd Iau 28 Tachwedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi teitlau’r llyfrau sydd wedi ennill Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc, a gyflwynir am y tro cyntaf yn 2024.

Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. Yr enillwyr yw:

Enillydd y categori Gymraeg:
Mynd i Weld Nain Darluniad y clawr gan Lily Mŷrennin. Dyluniad y clawr gan Richard Pritchard. Awdur: Delyth Jenkins. Cyhoeddir gan Y Lolfa.

Enillydd y categori Saesneg:
The Song that Sings Us Darluniad y clawr gan Jane Matthews. Dyluniad y clawr gan Becka Moor. Awdur: Nicola Davies. Cyhoeddir gan Firefly Press.

Dywedodd Lily Mŷrennin, darlunydd y clawr Cymraeg buddugol: “Am anrhydedd i glywed bod y llyfr bach gaeafol hwn wedi cael ei ddewis i ennill y wobr! Mae’r darluniau yn dathlu clydwch yr adeg yma o’r flwyddyn, a dwi’n gobeithio y gall pawb brofi ychydig o hud yn ei dudalennau.”

Dywedodd Ellyw Jenkins o’r Lolfa: “Mae’r Lolfa yn falch iawn bod clawr y llyfr Mynd i Weld Nain wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth Gwobr Clawr Llyfrau Plant 2024, a bod gwaith arlunio gwych Lily Mŷrennyn wedi cael cydnabyddiaeth. Gobeithio y bydd pawb yn mynd allan i brynu’r llyfr arbennig yma – mae’n anrheg Nadolig perffaith!”

Dywedodd Jane Matthews, darlunydd y clawr Saesneg buddugol:Waw, mae hyn yn newyddion arbennig! Rwy’n falch iawn o ennill y wobr newydd wych hon, yn enwedig o ystyried y tri chlawr hardd, bywiog yr oedd The Song that Sings Us yn eu herbyn. Rwyf wrth fy modd bod y wobr hon wedi ei sefydlu i ddathlu dyluniadau cloriau, ac mae’n golygu llawer i gael cydnabyddiaeth Cyngor Llyfrau Cymru a’u Panel Pobl Ifanc.”

Dywedodd Penny Thomas o Firefly: “Rydym wrth ein bodd bod clawr syfrdanol Jane a Becka ar gyfer The Song that Sings Us wedi ennill Gwobr Clawr Llyfrau Plant Cymru, ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych o’u sgiliau artistig a dylunio rhagorol a’u dychymyg!”

Sefydlwyd y gwobrau er mwyn dathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc.

Dewiswyd yr wyth llyfr oedd ar y rhestrau byrion gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. Dewiswyd enillwyr y ddau gategori trwy bleidlais gyhoeddus a gynhaliwyd ar-lein rhwng 12 a 25 Tachwedd. Mae dylunydd/darlunydd y clawr buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Lyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Lily Mŷrennin a Richard Pritchard, a Jane Matthews a Becka Moor am ennill gwobrau cyntaf Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc.

Rydw i’n siwr ein bod ni i gyd wedi dewis llyfr oherwydd iddo ddal ein llygad ar y silff, neu wedi sylwi ar glawr sydd wedi gwneud i ni fod eisiau darganfod mwy. Mewn llyfrau i blant a phobl ifanc mae cloriau yn bwysicach fyth, gan fod darllenwyr ifanc yn dechrau darganfod llyfrau, themâu a genres newydd – ac mae clawr gwych yn gallu eu hanfon nhw ar daith darllen na fydden nhw wedi ei hystyried o’r blaen.

Felly, rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu dathlu creadigwrydd a thalent darlunwyr a dylunwyr Cymru wrth gyflwyno’r gwobrau hyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr holl lyfrau ar y rhestrau byrion eleni.”

Y llyfrau eraill ar y rhestrau byrion oedd:

Clawr Llyfr Cymraeg:
Ac Rwy’n Clywed Dreigiau / And I Hear Dragons Darluniad y clawr gan Eric Heyman. Dyluniad y clawr gan Becka Moor. Golygwyd gan Hanan Issa. Cyhoeddir gan Firefly.

Diwrnod Prysur Darluniad a dyluniad y clawr gan Huw Aaron. Awdur: Huw Aaron. Cyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch.

Mwy o Straeon o’r Mabinogi Darluniad y clawr gan Valériane Leblond. Dyluniad y clawr gan Gwasg Rily Publications. Awdur: Siân Lewis. Cyhoeddir gan Gwasg Rily Publications.

Clawr Llyfr Saesneg:
Ceri & Deri: 1,2,3 Darluniad y clawr gan Max Low. Dyluniad y clawr gan Joana Rodrigues, Graffeg. Awdur: Max Low. Cyhoeddir gan Graffeg.

Lilly & Myles: The Torch Darluniad y clawr gan Hannah Rounding. Dyluniad y clawr gan Joana Rodrigues, Graffeg. Awdur: Jon Roberts. Cyhoeddir gan Graffeg.

Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine Darluniad y clawr gan Becka Moor. Awdur: Claire Fayers. Cyhoeddir gan Firefly.