Llun o Bethan Gwanas yn gwenu'n hapus 

Bethan Gwanas yn derbyn yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru:
Cyhoeddi derbynnydd Gwobr Mary Vaughan Jones 2024

Mae Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru, wedi ei dyfarnu i Bethan Gwanas, i ddathlu ei chyfraniad rhagorol i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Fe gyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983, i berson a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Yn ystod ei gyrfa fel awdur, mae Bethan wedi cyhoeddi 51 o lyfrau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion iaith gyntaf a dysgwyr. Mae hi wedi gwneud cyfraniad eang a gwerthfawr i lenyddiaeth plant a phobl ifanc ac mae ei straeon yn aml yn cynnwys cymeriadau benywaidd cryf a phenderfynol, fel Efa yng nghyfres Y Melanai.

Mae hi wedi ennilll Gwobr Tir na n-Og ddwywaith – gyda Llinyn Trôns yn 2001 a Sgôr yn 2003. Ystyrir nifer o’i llyfrau bellach yn glasuron llenyddol i blant a phobl ifanc, fel Llinyn Trôns, Ceri Grafu, Gwylliaid, Pen Dafad a chyfres Cadi ar gyfer darllenwyr iau.

Dywedodd Helgard Kause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae cyfraniad Bethan Gwanas at faes llenyddiaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn eithriadol ac mae’n bleser cael cyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones 2024 iddi i gydnabod ei chyflawniadau niferus yn y maes hwn. Yn ogystal ag ysgrifennu straeon gwych, mae Bethan yn angerddol am hyrwyddo darllen a llyfrau Cymraeg, ac mae hi’n gweithio’n ddiflino gydag ysgolion a llyfrgelloedd, ac ar-lein, i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddarllen. Llongyfarchiadau mawr i chi, Bethan, ar y wobr haeddiannol hon.”

Dywedodd Bethan Gwanas: “Ges i andros o sioc. Ro’n i mewn pwyllgor ac yn sydyn, mi gerddodd pwysigion y Cyngor Llyfrau i mewn. “Bethan, roeddet ti’n meddwl dy fod ti yma i bwyllgora, ond…” Roedd o’n teimlo fel croes rhwng This Is Your Life a’r Brodyr Bach. Fy ymateb cyntaf oedd, “Be sy haru chi?’ ond wedyn dyma sylweddoli: “Na, dwi’n haeddu hyn!” Wedi oes o wasanaeth, mae rhai’n cael cloc. Dwi’n cael Tlws Coffa Mary Vaughan Jones! A do, dwi wedi dotio, ac yn diolch o waelod calon am yr anrhydedd. Mae’n golygu’r byd i mi.”

Magwyd  Bethan Gwanas yn y Brithdir ger Dolgellau. Ar ôl graddio mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cafodd nifer o swyddi gwahanol, gan gynnwys gweithio gyda’r VSO yn Nigeria, dod o hyd i extras ar gyfer Rownd a Rownd, dysgu plant Cymru sut i ganŵio a dringo yng Nglan-llyn, a chyflwyno rhaglenni garddio a theithio ar y cyfryngau.

Cynhelir dathliad arbennig ym mis Tachwedd i ddathlu cyflawniad Bethan ac i gyflwyno’r wobr iddi yng nghwmni teulu a chyfeillion o’r byd llyfrau a thu hwnt.