Cyhoeddwyd enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2025 yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam mewn seremoni arbennig fore dydd Mawrth, 27 Mai.

Enillydd y categori cynradd yw Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts. Enillydd y categori uwchradd yw Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol, golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter.

Enillydd y categori cynradd
Arwana Swtan a’r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts, darluniwyd gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn).

Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobl…

Barn y panel: “Am antur! Fe allech gredu eich bod yn darllen hen chwedl forwrol, ond mae’r stori hon yn fodern a chyfoes gyda chymeriadau lliwgar a digwyddiadau rhyfeddol. Chwa o awyr iach yn gymysg gyda gwynt pysgod!”

 

Dywedodd Angie Roberts: “’Dan ni ar ben ein digon! Mae’r newyddion gwych yma’n mynd i roi’r hyder i mi ddal ati i sgwennu’r holl straeon sydd yn fy mhen. Mwy o anturiaethau i Arwana Swtan, ei mêts Halan a Finag o’r siop jips, a’r fôr-forwyn fwya sassy yn y byd, Swigi Dwgong.”

 

Enillydd y categori uwchradd
Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol. Golygwyd gan Llŷr Titus a Megan Angharad Hunter, darluniwyd gan Mari Philips (Rily).

Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 13 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru. Mae’r gyfrol yn anelu at hybu dealltwriaeth ac empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+ drwy rannu profiadau personol.

Barn y panel: “Llyfr pwysig i bawb er mwyn dod i adnabod ein hunain ac i adnabod pawb arall. Bydd pobl ifanc sy’n ceisio dod o hyd i’w hunaniaeth yn elwa o glywed am brofiadau’r cyfranwyr yn y gyfrol hon a bydd rhieni, athrawon, neiniau a theidiau, gwleidyddion – pawb – yn cael cyfle i ddysgu fod gan bob un ohonom yr hawl i gael ein deall a’n parchu fel unigolion. Mae’n bwysig bod llyfr fel hwn ar gael yn Gymraeg.”

Dywedodd Llŷr Titus: “Mewn cyfnod lle ydan ni’n gweld ymosodiadau o bob cwr ar hawliau pobl LHDTCRA+ mae ennill gwobr Tir na n-Og a chael dathlu hynny ar faes gŵyl fel yr Urdd, sydd yn ddigamsyniol yn ei chefnogaeth i’n cymuned ni, yn gadarnhad bod gan bawb yr hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw. Fel un o olygyddion y gyfrol mae hi’n fraint aruthrol ennill ond hefyd fel golygydd dyma bwysleisio mai straeon y bobl ifanc o fewn cloriau’r gyfrol ydy’r peth pwysicaf ac mai nhw ddylai gael y sylw heddiw.

 

 

Mi allai nifer ohonom ni wneud efo mwy o empathi, a phan wnaiff yr rheiny ohonoch chi sydd ddim yn deall pobl ifanc LHDTCRA+ neu yn teimlo unrhyw fath o ddrwgdeimlad tuag atyn nhw droi at y straeon o fewn y gyfrol yma, dwi’n mawr obeithio y gwnewch chi fagu yr empathi hwnnw, a dealltwriaeth.”

 

Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales.

 

Dywedodd Sue Polchow, Rheolwr Datblygu Cymuned – CILIP Cymru Wales: “Fel y corff aelodaeth ar gyfer llyfrgellwyr a gweithwyr gwybodaeth proffesiynol yng Nghymru, rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og unwaith eto yn 2025. Mae’r rhain yn gwobrwyo llyfrau unigryw sy’n helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y pleser o ddarllen straeon rhagorol o Gymru ac am Gymru. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron buddugol!”

 

Y teitlau eraill ar restr fer y categorïau Cymraeg oedd:

Cynradd:
Ni a Nhw gan Sioned Wyn Roberts, darluniwyd gan Eric Heyman (Atebol)

Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)

Uwchradd:
Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Rhedyn, Merlyn y Mawn gan Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

 

Cyhoeddwyd heddiw hefyd enillwyr Gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr. Gwobrau arbennig yw’r rhain gyda’r enillwyr yn cael eu dewis o’r llyfrau ar y rhestr fer ym mhob categori gan blant a phobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

 

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw Cynefin, Cymru a’r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Penglais School, Aberystwyth, ar 21 Mai, cyhoeddwyd mai The Twelve gan Liz Hyder (cyhoeddir gan Pushkin Children’s Books) yw enillydd y categori Saesneg. Enillydd gwobr Saesneg Dewis y Darllenwyr eleni yw Welsh Giants, Ghosts and Goblins gan Claire Fayers (Firefly).

Mae rhagor o fanylion am Wobrau Tir na n-Og i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau: llyfrau.cymru.