The Drowned Woods gan Emily Lloyd-Jones (cyhoeddwyd gan Hodder & Stoughton) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2023 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Cyhoeddwyd enw’r enillydd ar raglen Radio Wales, The Review Show, am 18:30 ddydd Gwener 2 Mehefin 2023.

Mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Trefnir hwy gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru. Mae’r awduron buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un, dan nawdd CILIP Cymru Wales, ynghyd â thlws a gomisiynwyd yn arbennig a’i greu gan ddylunwyr o Dawn’s Welsh Gifts, sydd wedi’u lleoli yn Aberystwyth a Thregaron.

Mae The Drowned Woods yn stori ffantasi llawn cyffro, wedi ei gosod mewn cyfnod pan oedd teyrnasoedd Cymru yn gyforiog o hud a lledrith a gwrthdaro. Mae Mererid, y prif gymeriad deunaw oed – neu ‘Mer’ fel mae’r darllenydd yn dod i’w hadnabod – yn gyfarwydd iawn ag elfennau drwg a da y teyrnasoedd hynny, fel ei gilydd. Fel yr olaf un i fod yn ddewines y dŵr, gall Mer drin dŵr â’i galluoedd hudol – roedd hi’n meddu ar bŵer unigryw y byddai llawer yn fodlon lladd i fod yn berchen arno. Ers blynyddoedd lawer mae Mer wedi bod yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth y tywysog oedd wedi ei chaethiwo, a’i gorfodi i ladd miloedd â’i galluoedd hud a lledrith. Erbyn hyn, y cyfan mae Mer yn dyheu amdano yw bywyd diogel, tawel, yn ddigon pell oddi wrth y pŵer a’r wleidyddiaeth. Ond yna mae cyn-ofalwr Mer, sef prif ysbïwr y brenin, yn dychwelyd gyda chynnig arbennig: mae angen iddi hi ddefnyddio’i phwerau i drechu’r union dywysog oedd wedi cam-drin y ddau ohonynt.

Y teitl buddugol hwn yw’r ail lyfr i’w wobrwyo o waith awdur sy’n byw yn America. Mae Emily Lloyd-Jones yn ymuno â’r awdur Nancy Bond, a enillodd Wobr Saesneg Tir na n-Og 1977 gyda’i nofel A String in the Harp.

Dywedodd Emily Lloyd-Jones: “Rydw i wrth fy modd bod The Drowned Woods wedi ennill Gwobr Saesneg Tir na n-Og! Alla i ddim dychmygu gorfod dewis rhwng y llyfrau ar y rhestr fer – mae’r awduron i gyd mor dalentog. Hoffwn ddiolch o galon i’r panel beirniaid, i Gyngor Llyfrau Cymru, ac i’m tîm cyhoeddi yn Hodder. Cafodd fy nghariad at ddarllen ei danio gan lyfrau’n seiliedig ar lên gwerin o Gymru, ac rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i rannu’r chwedlau hynny gyda chenhedlaeth newydd o ddarllenwyr.”

Dywedodd Simon Fisher, aelod o’r panel beirniaid: “Game of Thrones yn cyrraedd Bae Ceredigion! Mae The Drowned Woods yn stori ganoloesol ddychmygus a bywiog sy’n gyforiog o berygl, bygythiad a hud a lledrith. Gan dynnu ar elfennau o fytholeg Cymreig, yn cynnwys chwedl Cantre’r Gwaelod, mae’r stori ffantasi gyffrous hon i oedolion ifanc yn hynod ddifyr, a bydd yn apelio at ystod eang o ddarllenwyr.”

Mae’r llyfrau ar restr fer 2023 yn cyflwyno darllenwyr ifanc i gast niferus o gymeriadau cofiadwy sy’n serennu mewn ystod eang o straeon cyffrous a difyr. Mae’r teitlau ar y rhestrau byr yn enghraifft wych o’r modd y gall llyfr da danio’r dychymyg.

Y teitlau eraill ar y rhestr fer o lyfrau yn y categori Saesneg yw:

  • The Mab gan awduron amrywiol, golygwyd gan Eloise Williams a Matt Brown, darluniwyd gan Max Low (Unbound)
  • The Blackthorn Branch gan Elen Caldecott (Andersen Press)
  • The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros (Firefly Press)

Eleni, roedd Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyflwyno elfen newydd i’r gystadleuaeth, sef Gwobr Dewis y Darllenwyr. Gwobr arbennig yw hon, wedi’i dewis gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobr Tir na n-Og. Cyhoeddwyd mai enillydd Gwobr Dewis y Darllenydd 2023 oedd The Mab, gan awduron amrywiol a olygwyd gan Eloise Williams a Matt Brown, darluniwyd gan Max Low.

Dywedodd Amy Staniforth ar ran CILIP Cymru Wales: “Llongyfarchiadau fil i’r enillwyr ar eu camp aruthrol. Rydym yn falch o noddi Gwobrau Tir na n-Og eto eleni, gan barhau i helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y gorau o’r llyfrau o Gymru ac am Gymru.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni, a llongyfarchiadau mawr i’r awduron buddugol – mae eu straeon wedi sefyll allan ymhlith y teitlau gwych niferus ar y rhestrau byr. A diolch arbennig eleni i’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Cysgodi a chyfrannu mor frwdfrydig at wobrau Dewis y Darllenwyr.”

Cyhoeddwyd enwau enillwyr dau gategori Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2023 yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ddydd Iau 1 Mehefin 2023. Y teitlau buddugol yw Dwi Eisiau bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron a Huw Aaron, a Manawydan Jones: Y Pair Dadeni gan Alun Davies. Enillodd Manon Steffan Ros wobr Dewis y Darllenwyr yn y categori oedran cynradd a’r oedran uwchradd gydag Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan a Powell. Y teitlau eraill oedd ar restr fer y categorïau Cymraeg oedd:

Categori oedran cynradd

  • Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniwyd gan Valériane Leblond (Llyfrau Broga)
  • Dros y Môr a’r Mynyddoedd gan awduron amrywiol, darluniwyd gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch)

Categori oedran uwchradd

  • Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Powell gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)