Folding Rock –
Cyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd sbon i ddarllenwyr yng Nghymru a thu hwnt

Heddiw mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi pwy sydd wedi derbyn £80,000 o arian blynyddol i gyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd o Gymru.

Bydd Folding Rock: New Writing from Wales and Beyond yn rhoi llwyfan i awduron newydd a chydnabyddedig, gan ddathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Fe’i sefydlir gan yr awdur, golygydd a’r cynhyrchydd creadigol, Kathryn Tann, a’r golygydd a’r dyluniwr, Robert Harries.

Dyfarnwyd yr arian am gyfnod o bedair blynedd, hyd at Fawrth 2028, yn dilyn hysbysebu tendr agored ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd ym mis Mawrth 2024. Fe gwblhawyd y broses dros yr haf, a bydd Folding Rock yn cyhoeddi ei rifyn cyntaf ym mis Mawrth 2025.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Hoffwn gynnig ein llongyfarchiadau gwresog i Kathryn a Rob o Folding Rock am eu cais llwyddiannus i sicrhau’r cyllid hwn. Roeddent wedi cyflwyno gweledigaeth i’r is-bwyllgor cyhoeddi am gylchgrawn a fydd yn amlygu ac yn dathlu’r goreuon o blith awduron Cymreig ac o Gymru, boed yn awduron newydd neu’n rhai cydnabyddedig – a chreu llwybr grymus, clir i ddoniau newydd allu cyhoeddi eu gwaith.

“Mae’r weledigaeth hon yn greiddiol i’n gwaith ni yn y Cyngor Llyfrau – i greu cyfleoedd i ddarganfod awduron newydd ac, yn y pen draw, i gryfhau’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wrth i’r genhedlaeth nesaf o awduron fireinio’u crefft.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r fenter gyffrous newydd yma, ac at weld rhifyn cyntaf Folding Rock yn cyrraedd yn gynnar y flwyddyn nesa.”

Dywedodd Kathryn Tann o Folding Rock: “Mae Folding Rock yn ganlyniad blynyddoedd lawer o freuddwydio sut y byddai’n bosib i Rob Harries a minnau ddefnyddio ein sgiliau, ein profiad a’n hymddiriedaeth yn awduron Cymru i greu rhywbeth y byddai darllenwyr a chyhoeddwyr yn talu sylw iddo. Rydym mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ac anogaeth a gawsom hyd yn hyn, ac ni allwn aros i weld i ble’r awn ni dros y blynyddoedd nesaf.”

Daw’r cyllid hwn o Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, sydd yn ariannu’r masnachfreintiau pedair-blynedd ar gyfer cyfnodolion diwylliannol Saesneg. Gweinyddir y grant trwy Cyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Jack Sargeant AS, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol: “Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i helpu i gefnogi sector cyhoeddi bywiog ac amrywiol yng Nghymru. Mae lansiad Folding Rock yn nodi pennod newydd gyffrous i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru, gan gynnig llwyfan newydd i leisiau newydd a chydnabyddedig, a dathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg. Edrychaf ymlaen at y rhifyn cyntaf yn 2025!”

Bydd rhifyn cyntaf Folding Rock yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2025. Bydd tri rhifyn y flwyddyn, gyda chynnwys digidol ar gael ochr yn ochr â’r cylchgrawn print. Gallwch ddilyn Folding Rock ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol https://linktr.ee/foldingrock, a chofrestru i dderbyn diweddariadau neu darganfod mwy ar foldingrock.com.