Cyngor Llyfrau Cymru yn sicrhau dros £800,000 i ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen yng Nghymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Adran Addysg Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant o £849,860 dros dair blynedd i’r Cyngor Llyfrau i barhau a datblygu eu gweithgareddau hyrwyddo darllen.
Cyhoeddwyd wythnos yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle, bod Cyngor Llyfrau Cymru yn un o’r sefydliadau a fydd yn derbyn arian o dan Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.
Dyfernir y grant i’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, sy’n cynnal ystod eang o ymgyrchoedd a phartneriaethau i ddathlu llyfrau a hyrwyddo darllen er pleser. Bydd y rhain yn cynnwys:
Athrawon Caru Darllen – yn dilyn peilot llwyddiannus yn 2024, bydd y prosiect hwn yn darparu cyfres o hyfforddiant wedi’i theilwra i athrawon cynradd ac uwchradd, gan ymarferwyr addysg uwch o Brifysgol Bangor, gyda phwyslais penodol ar wella sgiliau addysgwyr mewn darllen er pleser, mewnblannu darllen yn y dosbarth a dysgu darllen a llythrennedd. Nod y rhaglen yw meithrin cariad at ddarllen ymhlith ymarferwyr addysg, er mwyn iddynt ysbrydoli dysgwyr ar lawr dosbarth.
Sialens Ddarllen yr Haf – cynllun i annog plant a’u teuluoedd i barhau i ddarllen trwy wyliau ysgol yr haf, wrth ymweld â llyfrgell leol. Mae’r prosiect yn denu dros 33,000 o blant a phobl ifanc i fanteisio ar fenthyg llyfrau o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Mewn partneriaeth â’r Reading Agency a llyfrgelloedd Cymru.
Gornest Lyfrau / BookSlam – cystadlaethau darllen yn seiliedig ar restrau darllen ac adnoddau pwrpasol i gyfoethogi’r dysgu a dyfnhau dealltwriaeth. Mae ysgolion yn cystadlu ar lefel sirol yn gyntaf, gyda’r ysgolion buddugol yn cael cynrychioli’r sir yn y rowndiau terfynol cenedlaethol sy’n cael eu cynnal yn Aberystwyth.
Meithrin Cymuned o Ddarllenwyr – cyfres o raglenni a fydd yn annog a chefnogi teuluoedd i ddarllen er pleser. Mae’n blaenoriaethu mynediad at lyfrau ac adnoddau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, ac yn sicrhau bod sawl ffordd i blant a theuluoedd gymryd rhan yn yr elfen sy’n addas iddyn nhw a’u hanghenion. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys:
- Diwrnod y Llyfr ym mis Mawrth, mewn partneriaeth â World Book Day, a dathliadau Diwrnod y Llyfr UNESCO ar 23 Ebrill;
- Cydweithio gyda RhAG i gynnal sesiynau darllen er pleser i rieni di-Gymraeg;
- Cefnogi gyda chyhoeddi cylchgrawn digidol Cyw ar y cyd gyda Boom Cymru i ddysgwyr rhwng 3 a 7 oed;
- Parhau gyda Phanel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau, a denu oedolion ifanc i ddarllen gyda’r podlediad ‘Sut i Ddarllen’.
Dywedodd Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Bethan Jones: “Rydym yn falch iawn bod yr arian hanfodol hwn wedi ei ddyfarnu i ni – hebddo, ni fyddem yn gallu rhedeg cymaint o’r ymgyrchoedd a’r gweithgareddau sy’n ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddarllen er pleser bob blwyddyn. Mae gennym gynlluniau hynod gyffrous ar gyfer y tair blynedd nesa, a theimlwn yn ffodus iawn o fod wedi sicrhau cyllid aml-flwyddyn, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu cydweithio gyda phartneriaid i adeiladu ar y prosiectau dros flynyddoedd yn olynol; yn cael mwy o lyfrau at fwy o blant a phobl ifanc, i ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen.”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a’i hadran am eu hymrwymiad parhaol trwy’r cyllid hwn, sy’n sylfaen i waith yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yn y Cyngor Llyfrau, ac sydd wedi diogelu 2.5 swydd.
Mae’r grant hwn yn ein galluogi ni i barhau i ddarparu partneriaethau a chynlluniau hyrwyddo darllen blynyddol poblogaidd i blant a phobl ifanc ledled Cymru, megis Sialens Ddarllen yr Haf a llyfr £1 Cymraeg Diwrnod y Llyfr. Mae’n bwysig hefyd ei fod yn golygu y gallwn ddarparu ymyriadau wedi eu targedu’n benodol i ymateb i anghenion y Cwricwlwm i Gymru yn ogystal â heriau cyfredol o gwmpas lefelau llythrennedd, cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, a llesiant. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid dibynadwy i gyflawni’r rhaglen uchelgeisiol gyffrous hon dros y tair blynedd nesa.”
Dyfarnwyd y cyllid am gyfnod hyd at Mawrth 2028 o dan Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm. Cyhoeddir gwybodaeth am y prosiectau a gefnogir gan y grant ar wefan y Cyngor Llyfrau: www.llyfrau.cymru