Plethu pobl drwy lyfrau
Mae ysgolion ledled Cymru yn derbyn llyfrau am ddim sy’n adlewyrchu’n well ein straeon, ein pobl, a’n cymunedau, wrth i gynllun Rhyngom i gyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc gael ei gwblhau.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn anfon dros 49,000 o lyfrau am ddim i ysgolion ar hyd a lled y wlad y tymor hwn, fel rhan o gynllun Rhyngom, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Adnodd.
Prosiect tair blynedd, gwerth £810,000 yw Rhyngom, i gyhoeddi mwy o lyfrau darllen er pleser sy’n dathlu a hyrwyddo amrywiaeth, ar gyfer plant a phobl ifanc. Ers cychwyn yn 2022, mae’r prosiect wedi cefnogi creu llyfrau gwreiddiol Cymraeg a Saesneg newydd sbon, yn ogystal ag addasiadau Cymraeg o lyfrau Saesneg, sy’n adlewyrchu’n well ein straeon, ein pobl, a’n cymunedau.
Comisiynwyd yr ugain llyfr gwreiddiol newydd yn arbennig i’r cynllun, ac ymhlith yr awduron mae ysgrifenwyr tro cyntaf ac awduron cydnabyddedig. Ers eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2024, mae rhai o’r teitlau wedi cyrraedd rhestrau byrion am wobrau, tra bod teitlau eraill wedi ennill gwobrau.
Yn ystod gwanwyn 2025 cyhoeddwyd addasiadau Cymraeg o 28 o deitlau Saesneg sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth – gan gynnwys Windrush Child gan Benjamin Zephaniah (Un o Blant y Windrush, addaswyd/cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth) a Boys don’t Cry gan Malorie Blackman (Gormod o Ddyn, addaswyd/cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros).
Dewiswyd themâu’r llyfrau gwreiddiol a’r teitlau Saesneg i’w cyfieithu gan banel annibynnol oedd yn cynrychioli amrediad o sefydliadau a chefndiroedd, ac sy’n llysgenhadon brwd yn eu meysydd arbenigedd. Mae adnoddau addysg yn cyd-fynd â holl lyfrau’r gyfres, er mwyn galluogi athrawon a dysgwyr i archwilio’r themâu a’r cwestiynau sy’n codi ynddynt yn fwy trylwyr.
Ar ôl tair blynedd, mae’r prosiect uchelgeisiol hwn yn dirwyn i ben, a’r cam olaf o anrhegu’r llyfrau yn fodd o sicrhau bod y llyfrau yn cyrraedd darllenwyr ar hyd a lled Cymru. Bydd pob ysgol gynradd wladol yn derbyn copi am ddim o’r llyfrau i ddarllenwyr 3 i 11 oed, a phob ysgol uwchradd wladol yn derbyn copi o’r llyfrau i ddarllenwyr 8 i 16 oed. Bydd yr ysgolion hefyd yn derbyn copïau print o’r adnoddau addysg yn seiliedig ar yr 20 llyfr gwreiddiol. Mae’r adnoddau addysg sy’n cyd-fynd â phob un o’r 48 teitl ar gael yn ddigidol drwy Hwb.
Bu dysgwyr mewn digwyddiad arbennig yn Ysgol Gynradd Hamadryad yng Nghaerdydd i ddathlu bod y llyfrau am ddim yn cyrraedd ysgolion ledled y wlad, ac i nodi bod y prosiect wedi ei gwblhau yn llwyddiannus. Arweiniodd Rebecca Wilson, awdur un o’r llyfrau gwreiddiol, sef Gŵyl y Gaeaf / The Winter Festival, weithdy yn archwilio themâu’r llyfr gyda disgyblion Blwyddyn 2. Ymunodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd, a Delyth Ifan, Rheolwr Prosiect Rhyngom ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, â nhw.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rydyn ni am i blant fwynhau darllen, ac mae darparu llyfrau y gall plant eu mwynhau a straeon sy’n eu cynrychioli nhw, yn allweddol i hyn. Nod cynllun Rhyngom yw portreadu Cymru gyfoes, ac adrodd straeon sy’n gwneud i blant a phobl ifanc deimlo bod y llyfrau maen nhw’n eu darllen yn eu hadlewyrchu nhw, eu teuluodd a’u ffrindiau.
“Hoffwn longyfarch yr awduron a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn. Mae’n bwysig dros ben fod ein hysgolion yn cael llyfrau darllen newydd, Cymraeg a Saesneg, sy’n cefnogi addysgu amrywiaeth ar draws y cwricwlwm, yn cefnogi sgiliau llythrennedd ac empathi dysgwyr, ac yn cyfrannu at eu lles meddyliol ac emosiynol.”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i Adnodd am gofleidio ein gweledigaeth i’r rhaglen bwysig hon, sydd wedi cael effaith enfawr – a’n galluogi i gomisiynu llyfrau Cymraeg a Saesneg sy’n dathlu pob un o’n cymunedau yng Nghymru.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid niferus a gyfrannodd eu profiad a’u harbenigedd trwy gydol y prosiect hwn, a oedd yn gyd-gynhyrchiad; gan gynnwys aelodau ein panel a helpodd ddewis y llyfrau i’w haddasu; y mentoriaid a’r darllenwyr sensitifrwydd a gefnogodd yr awduron; y panel a greodd yr adnoddau addysg; ac, wrth gwrs, y cyhoeddwyr ledled Cymru am gefnogi’r prosiect, a’r awduron eu hunain. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib hebddyn nhw, ac mae gan ddarllenwyr ifanc ar hyd a lled Cymru fwy o lyfrau gwych i’w mwynhau sy’n adlewyrchu’n well eu straeon a’u profiadau nhw eu hunain.”
Dywedodd Lowri Gwyn, Arweinydd Adran Derbyn-Blwyddyn 2 Ysgol Hamadryad: “Profiad arbennig i’n disgyblion Blwyddyn 2 ni oedd cael cyfarfod ag awdures Gŵyl y Gaeaf, Rebecca Wilson. Mwynheuodd pob un ohonyn nhw’r gweithdy gwych yn trafod yr amrywiaeth o ddathliadau sydd yn ein cymuned ac o fewn ein hysgol. Braf hefyd oedd clywed yr awdur yn darllen rhan o’i stori arbennig a fydd yn apelio at blant dros Gymru gyfan.”
Dywedodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd: “Mae Adnodd yn falch i fod wedi cefnogi prosiect Rhyngom. Mae’r llyfrau hyn yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru heddiw ac yn cynnig i ddysgwyr straeon y gallan nhw uniaethu â nhw, naill ai drwy iaith, diwylliant, profiad neu hunaniaeth. Rydyn ni’n gwybod bod dysgwyr yn ymgysylltu’n well â’u dysgu pan fyddan nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gweld. A phan mae gan athrawon adnoddau cynhwysol o safon uchel, mae’n eu galluogi i sbarduno trafodaethau pwerus yn y dosbarth, ar fuarth yr ysgol, a thu hwnt. Mae Rhyngom yn ddathliad o greadigrwydd, cynhwysiant a chyd-gynhyrchu, sy’n ganolog i strategaeth Adnodd, ac rydyn ni wrth ein boddau’n gweld y llyfrau hyn yn cyrraedd ysgolion ledled y wlad.”
Mae pob llyfr sydd wedi ei gyhoeddi fel rhan o gynllun Rhyngom ar gael i’w brynu o’ch siop lyfrau leol. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Rhyngom ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru: Rhyngom: Rhestr teitlau / List of titles
