Mae caniatâd hawlfraint ar ailddefnyddio deunydd wedi’i gyhoeddi wedi’i gynyddu dros dro ar gyfer ysgolion a cholegau, yn dilyn ymdrechion gan Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA, Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiant cyhoeddi.
Wedi trafodaethau gyda’u haelodau, cyhoeddodd y CLA ar 9 Chwefror 2021 bod uchafswm y deunydd y gellid ei gopïo o dan eu Trwydded Addysg yn cynyddu dros dro – o’r 5% presennol i 20% tan 31 Mawrth 2021.
Ac mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu caniatâd arbennig gyda rhai o brif gyhoeddwyr Cymru er mwyn eu gwneud yn haws i athrawon ddefnyddio eu deunydd ar gyfer dysgu o bell yn ystod cyfnod y pandemig.
Trwydded Addysg y CLA
O dan y newid dros dro i delerau’r drwydded, gall athrawon gopïo hyd at 20% o lyfr print sy’n eiddo i’r ysgol gan gynnwys cynnwys llyfrau wedi’i sganio sy’n cael eu cadw ar systemau dysgu rhithiol (VLE) yr ysgol.
Bydd y newid, sy’n berthnasol i ysgolion, colegau chweched dosbarth ac addysg bellach y DU, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon a myfyrwyr gael gafael ar adnoddau i gefnogi dysgu o bell tra bod ysgolion ynghau.
Gall defnyddwyr y Platfform Addysg hefyd gopïo hyd at 20% o lyfr digidol sydd ar gael ar y platfform yn ystod y cyfnod hwn.
Man amodau llawn y Drwydded Addysg i’w gweld ar wefan y CLA ac mae’r asiantaeth hefyd wedi paratoi canllawiau arbennig i ysgolion yn egluro’n syml beth yw eu hawliau o dan amodau arferol y drwydded.
Ar hyn o bryd, mae pob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru wedi cofrestru gyda’r CLA sy’n golygu bod telerau’r drwydded yn berthnasol i’w holl ysgolion.
Cyhoeddwyr Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi trefnu caniatâd dros dro arbennig gyda rhai o brif gyhoeddwyr Cymru o ran eu defnydd o lyfrau yn ystod y pandemig.
Y nod yw ei gwneud hi’n haws i athrawon ailddefnyddio deunydd sydd wedi’i gyhoeddi er mwyn cefnogi ymdrechion addysgu o bell.
Mae’r telerau’n amrywio o gyhoeddwr i gyhoeddwr ac yn cynnwys, er enghraifft, yr hawl i gopïo a recordio darlleniadau o lyfrau.
Mae manylion llawn y caniatâd dros dro sydd wedi ei gytuno gyda chyhoeddwyr Cymru i’w gweld ar wefan y Cyngor Llyfrau.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb ac yn enwedig i ysgolion wrth iddyn nhw barhau i gynnig addysg o safon ar adeg pan fo’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu o gartref. Mewn amgylchiadau eithriadol, rydym yn croesawu cyhoeddiad y CLA am gynyddu caniatâd hawlfraint dros dro o dan amodau eu Trwydded Addysg. Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i gyhoeddwyr Cymru am eu cydweithrediad parod a’u cefnogaeth i addysg plant yn ystod cyfnod sydd hefyd yn anodd iddyn nhw fel busnesau masnachol.”