
Darllen Dros Gymru yw ein cystadleuaeth flynyddol i ddisgyblion cynradd. Trwy gyfrwng y cystadlaethau hwyliog yma rydym yn annog plant i gymryd diddordeb ym myd llyfrau a chryfhau eu sgiliau llythrennedd, dehongli, trafod a chyflwyno.
Mae’r gystadleuaeth yn creu cyffro am fyd llyfrau, ac wrth gymryd rhan mae’r disgyblion yn meithrin agweddau cadarnhaol a hirdymor tuag at ddarllen. Gall ddarllen er pleser gefnogi datblygiad empathi a chyfrannu at ddatblygiad iechyd a lles.
Mae manylion y Cystadlaethau Darllen 2021/22 i’w gweld yma.
Dyma gystadleuaeth sydd yn…
- Agored i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 6 (un cystadleuaeth i flynyddoedd 3 a 4 ac un ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a 6).
- Cynnig detholiad eang o lyfrau ar y rhestr ddarllen i ennyn diddordeb trawstoriad o ddisgyblion.
- Cynnig hyblygrwydd i athrawon weithredu ar lefel dosbarth cyfan neu grwpiau MAT.
- Cyfrannu at ofynion y Siarter Iaith.
- Cydfynd â gofynion Cwricwlwm i Gymru.
- Cynnig profiadau gwerthfawr y tu allan i’r ysgolc
Yn ogystal â bod yn hwyl, mae elfen gystadleuol y rhaglen…
- Yn ysgogi plant o bob gallu i ddarllen a thrafod llyfrau.
- Yn rhoi cyfle i’r plant a’u hysgolion i ennill gwobrau hael.
Manylion y Gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar lefel sirol.
- Bydd pob sir yng Nghymru yn dethol un ysgol i gynrychioli’r sir yn y Rownd Genedlaethol.
- Pob tîm i ddewis UN llyfr o’r rhestr lyfrau i’w drafod ac UN llyfr gwahanol i’w gyflwyno ar ffurf hysbyseb hyrwyddo.
- Cysylltwch â’ch trefnydd sirol neu plant@llyfrau.cymru i gadarnhau’r trefniadau rhanbarthol.
Trafod:
- Prif nod yr her yw dangos bod y criw yn gallu trafod y llyfr, y cymeriadau a’r digwyddiadau ynghyd â’r profiad darllen.
- Ni fydd disgwyl i’r criw trafod fod wedi paratoi trafodaeth o flaen llaw.
- Mae disgwyl i bob aelod ymateb i gwestiynau penagored a sylwadau’r beirniad yn ogystal ag ymateb i sylwadau ei gilydd.
- Caniateir uchafswm o 4 aelod ym mhob tîm trafod.
- Bydd y sesiwn feirniadu yn para tua 8 munud.
Hysbyseb Hyrwyddo:
- Prif nod y perfformiad yw creu fideo i hyrwyddo’r llyfr er mwyn apelio at gynulleidfa o blant o’r un oedran er mwyn eu hannog i’w brynu a’i ddarllen
- Pob tîm i ddewis UN llyfr gwahanol i’r un a ddewiswyd i’w drafod.
- Hyd at 8 aelod ym mhob tîm.
- Nid oes raid i’r aelodau sy’n cyflwyno’r llyfr fod yr un rhai â’r disgyblion fydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth.
- Uchafswm o 6 munud o berfformiad hyrwyddo.
- Caniateir props a gwisgoedd.
- Gallwch ffilmio perfformiad llwyfan NEU gallwch ffilmio mewn lleoliadau gwahanol – byddwch mor greadigol ag y mynnwch!
- Caniateir y defnydd o feddalwedd golygu fideo syml gan y disgyblion.
- Tynnir un marc am bob hanner munud dros y 6 munud a ganiateir.
- Rhoddir 50% o’r marciau am y trafod a 50% am y perfformiad.
Canllawiau Trafod – Am beth fydd y beriniad yn chwilio
Gwybodaeth:
- Y gallu i fynd dan groen y llyfrau, y stori a’r cymeriadau, lle mae hynny’n briodol.
- Dealltwriaeth dda o neges a themâu’r llyfr.
- Cyfeirio at ddarllen ehangach y tu allan i ffiniau’r gystadleuaeth, lle mae hynny’n briodol.
Mynegi barn:
- Mynegi barn yn glir gan roi rhesymau gonest a theg.
- Y gallu i holi, cytuno, ateb, anghytuno a herio lle mae hynny’n briodol.
- Gwrando ac adeiladu ar sylwadau ei gilydd.
- Cynnig sylwadau sy’n berthnasol i sylwadau eraill.
Trafod fel grŵp:
- Y gallu i drafod yn annibynnol fel grŵp.
- Cyfraniad cyfartal a chytbwys gan bob aelod o’r grŵp.
- Trafod byrlymus.
- Gallu ymateb i gwestiynau sy’n codi o’r drafodaeth.
Canllawiau Hyrwyddo
Am beth fydd y beirniad yn chwilio?
- Cyflwyniad sy’n cyfleu naws y llyfr ac yn annog y gynulleidfa darged i fynd ati i ddarllen y llyfr.
- Perfformiad bywiog gydag effeithiau dramatig amrywiol.
- Symudiadau a defnydd effeithiol o’r gofod berfformio.
- Y gallu i daflu lleisiau ac i gyfleu neges yn glir – lleisiau uchel, clir a hyderus.
- Y gallu i weithio fel tîm – cyfle i bob unigolyn gyfrannu at y cyflwyniad.
- Defnydd effeithiol o wisgoedd a phropiau.
Manylion Pellach
I ganfod mwy am sut i fod yn rhan o’r gystadleuaeth flynyddol hon, cysylltwch â cllc.plant@llyfrau.cymru | 01970 624 151.