Dathlu amrywiaeth drwy lyfrau i blant a phobl ifanc
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio detholiad newydd o lyfrau gwreiddiol i blant a phobl ifanc mewn digwyddiad arbennig yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Cafodd dysgwyr o ysgolion lleol eu gwahodd i weld y llyfrau newydd ac i gwrdd â’r awduron.
Sefydlwyd prosiect Rhyngom, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cyhoeddi mwy o lyfrau i ddarllenwyr ifanc sy’n cynrychioli diwylliant, pobl a hanes Cymru gyfan, ac sy’n dathlu a hyrwyddo amrywiaeth. Mae’r lansiad yn dathlu carreg filltir gyffrous wrth i lyfrau gwreiddiol newydd, a gomisiynwyd fel rhan o’r cynllun, gael eu cyhoeddi.
Mae’r llyfrau newydd yn cynnwys gweithiau gan awduron newydd yn ogystal ag awduron sefydledig. Un o’r prif amcanion wrth gomisiynu llyfrau gwreiddiol Cymraeg a Saesneg fel rhan o’r cynllun hwn oedd sicrhau cyfleoedd cyhoeddi i awduron a darlunwyr o ystod o gefndiroedd a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli. Cefnogwyd rhai awduron newydd i weithio gyda mentor neu i gydysgrifennu gydag awdur mwy profiadol.
Ymhlith y llyfrau newydd mae:
Y Ransh ym Mhen Draw’r Byd / The Ranch at the End of the World gan Emma Bettridge. Addasiad gan Sioned Erin Hughes (Graffeg).
Hanes fy Hynodrwydd / A History of My Weird gan Chloe Heuch. Addasiad gan Mared Llwyd (Firefly).
Megs / Megs gan Meleri Wyn James (Y Lolfa).
Zac a Jac / Zac and Jac gan Cathy Jenkins. Addasiad gan Ceri Wyn Jones (Graffeg).
20 o Bobl Liwgar Cymru / 20 Colourful People of Wales gan Natalie Jones (Y Lolfa).
Cartref o Liw / Colours of Home gan Miriam Latimer. Addasiad gan Anwen Pierce (Graffeg).
Gŵyl y Gaeaf / The Winter Festival gan Rebecca Wilson (Rily).
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Llongyfarchiadau i’r awduron a’r cyhoeddwyr sydd wedi gweithio mor galed i gynhyrchu’r detholiad hyfryd yma o lyfrau, rhai ohonyn nhw gan awduron newydd. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at eu darllen nhw i gyd!
“Mae Rhyngom yn brosiect tair blynedd a fydd yn arwain at gyhoeddi 48 o lyfrau darllen er pleser i blant a phobl ifanc; yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth ac yn adlewyrchu mwy o’n straeon, ein pobl a’n cymunedau yng Nghymru. Diolch i’n partneriaid niferus sydd wedi rhannu eu cyngor a’u harbenigedd ac wedi gwneud y prosiect yma’n bosib.
“Roedd yn bleser pur lansio’r llyfrau newydd heddiw ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Adran Addysg Llywodraeth Cymru am eu harian a’u cefnogaeth.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: “Hoffwn ychwanegu fy llongyfarchiadau i’r awduron a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect. Mae mor bwysig i’n hysgolion gael llyfrau darllen newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n cefnogi addysgu amrywiaeth ar draws y cwricwlwm, gan gefnogi ein dysgwyr gyda’u sgiliau llythrennedd ac empathi, a chyfrannu at eu lles meddyliol ac emosiynol.”
Yn y digwyddiad lansio heddiw, a arweiniwyd gan Miriam Isaac, bu dysgwyr Blwyddyn 2 o Ysgol y Dderwen ac Ysgol y Model yn cwrdd â’r awduron Rebecca Wilson, Natalie Jones, Miriam Latimer a Gail Sequeira. Buon nhw’n cymryd rhan mewn gweithdai a gweithgareddau i archwilio’r themâu, y syniadau a’r straeon sydd yn y llyfrau ar gyfer oedran yr ysgol gynradd. Yn y prynhawn, teithiodd yr awduron Chloe Heuch, Megan Angharad Hunter, Meleri Wyn James a Cathy Jenkins i Ysgol Bro Taf i gwrdd â dysgwyr Blwyddyn 7 ac i lansio’r llyfrau ar gyfer oedran yr ysgol uwchradd.
Dyma gam cyntaf prosiect tair blynedd gwerth £810,000 a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd cam dau yn dilyn ym mis Mawrth 2025, pan gyhoeddir addasiadau Cymraeg o 28 o deitlau Saesneg sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth – yn eu plith, teitlau sydd wedi ennill gwobrau fel y Diverse Book Award – a byddant ar gael i’w prynu mewn siopau llyfrau neu ar-lein ar Gwales.com.
Y trydydd cam fydd cyhoeddi adnoddau addysg i gyd-fynd â’r 48 o lyfrau. Bydd yr adnoddau hyn ar gael ar ffurf print ac yn ddigidol, ac yn darparu canllaw ychwanegol a gwerthfawr i athrawon yng Nghymru; byddant ar gael erbyn Medi 2025.
Rhan olaf y prosiect fydd cynllun anrhegu i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru. Bydd pob ysgol gynradd wladol yn derbyn copi am ddim o’r llyfrau i ddarllenwyr 3–7 oed ac 8–11 oed, a phob ysgol uwchradd wladol yn derbyn copi o’r llyfrau i ddarllenwyr 8–11 oed a 12–16 oed. Byddant hefyd yn derbyn fersiynau print o’r adnoddau addysg.