Islwyn Ffowc Elis (1924–2004)

Rhai atgofion Robin Chapman

Tua chanol haf 1996, yn sgil derbyn comisiwn i lunio cyfrol fach ar Islwyn i’r gyfres Writers of Wales, ysgrifennais ato i ddweud y byddwn yng nghyffiniau ei gartref yn Llanbedr Pont Steffan o fewn ychydig wythnosau ac mai braf fyddai cyfarfod. Daeth pecyn swmpus yn ateb: llythyr yn fy ngheryddu am ei alw yn ‘Dr Elis’ (‘Islwyn wyf fi i’m ffrindiau’) ac yn fy nghroesawu i alw yn y tŷ am goffi neu ginio canol dydd neu de pnawn. Amgaeodd fap manwl yn ei law ei hun, awgrymiadau ar leoedd i aros, a sawl tudalen o CV a llyfryddiaeth, y cyfan wedi’i deipio’n unswydd. Fel y digwyddodd, treuliasom y bore ar ei aelwyd a rhan o’r pnawn mewn gwesty cyfagos (Islwyn yn mynnu prynu’r diodydd), cyn imi ffarwelio ag ef gyda llwyth o bapurau a llyfrynnau a thoriadau o bapurau newydd – a gwahoddiad i alw eto.

Ac wrth i’r ymdriniaeth fer Saesneg – a’r bywgraffiad Cymraeg llawnach o dipyn a luniais yn ei sgil – ddod at ei gilydd (cyhoeddwyd yr ail yn 2003, o fewn ychydig fisoedd i’w farw), ni pheidiodd y cyswllt na’r pecynnau: sylwadau ar ddrafftiau o’r penodau, tameidiau o atgof, ffynonellau ac enwau a allai fod o ddefnyddiol – ac un ysgrif go faith, ‘Pam y blynyddoedd mud? Ymgais i esbonio’, yn ceisio egluro pam y ffrwydrodd ei ddawn mor drawiadol yn yr 1950au a darfod mor derfynol erbyn canol yr 1960au.

Prin fod angen yr ysgrif. Yr oedd rhan o’r eglurhad ym mhob pecyn: ei gymwynasgarwch diymarbed. Oherwydd nid fi oedd yr unig un i’w brofi.

Egwyddor bywyd Islwyn oedd plesio. Bodloni disgwyliadau ei rieni a’i cymhellodd i fynd i’r weinidogaeth. Lluniodd Cysgod y Cryman (1953) er mwyn hybu llenyddiaeth boblogaidd, a hyd yn oed wedi iddo fentro mynd yn llenor hunangyflogedig treuliodd fisoedd yn ysgrifennu Wythnos yng Nghymru Fydd (1957) fel rhodd i Blaid Cymru, gan ildio’r hawl i Gwynfor Evans farnu a oedd y cynllun a’r cynnwys yn dderbyniol. Yr un awydd i fod o gymorth a’i sbardunodd er ei waethaf i sefyll fel ymgeisydd seneddol yn Sir Drefaldwyn yn 1962, ac i wneud yr un peth eto, yntau bellach yn byw ymhell, yn 1964. A rhwng y ddwy ymgyrch, dan bwysau teulu ei wraig, cymerodd ei berswadio i gynnig am swydd sefydlog fel darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin – a’i gael ei hun wrth law pan lansiodd Gwynfor ei ymgyrch hanesyddol yn yr isetholiad ddwy flynedd yn ddiweddarach. Rhwng y pwysau a osododd arno’i hun i fod yn llenor at iws gwlad, ei euogrwydd ynghylch cefnu ar yr alwedigaeth a fynnai eraill iddo, ei ymdeimlad o ddyletswydd i’w blaid a swydd na fynnai fod ynddi, ni fu dianc wedyn. Ac o hyd ac o hyd drwy ei yrfa, amhosibl iddo oedd dweud Na. Sgets fach i gwmni drama? Pleser. Beirniadu yn yr Eisteddfod? Wrth gwrs. Bwrw golwg dros gasgliad o straeon byrion gan lenor ifanc anghyhoeddedig? Hapus i wneud.

Anodd anghofio’r ymweliad â Llanbedr Pont Steffan, yr haelioni a’r sgwrs – a’r gair o gyngor wrth imi ymadael dan fy maich: ‘Peidiwch â mynd i drafferth o’m rhan i, cofiwch. Peidiwch â gweithio’n rhy galed.’