Gwahoddir plant ledled Cymru i ddewis gwisgo dillad cyfforddus i ddarllen, gan swatio’n glyd ac ymgolli mewn llyfr da ar Ddiwrnod y Llyfr® eleni, sy’n cael ei ddathlu ddydd Iau 6 Mawrth.

Fel rhan o’i neges i annog mwy o blant i brofi manteision darllen er pleser sy’n gallu newid bywydau, mae elusen Diwrnod y Llyfr yn darparu tocynnau llyfr gwerth £1 i blant ledled Cymru. Gallwch ddewis llyfr am £1 o blith nifer o lyfrau £1, neu ei roi tuag at gost llyfr arall o’ch dewis.

Mae detholiad newydd o lyfrau gwerth £1 wedi eu cyhoeddi ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2025. Y llyfr Cymraeg eleni yw Gwyrdd Ein Byd gan yr arbenigwr natur Duncan Brown, wedi ei ddarlunio gan Helen Flook a’i gyhoeddi gan Rily.

Gall darllenwyr ddarganfod ffeithiau diddorol am fyd natur a’r bywyd gwyllt anhygoel sydd o’n cwmpas, o bysgod hynafol yn Llyn Tegid i’r aderyn sy’n nythu mewn tyllau cwningod ar Ynys Sgomer, a’r coedwigoedd glaw sydd gennym yma yng Nghymru.

Eleni, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog darllenwyr ifanc i ddewis dillad cyfforddus i ddarllen ac ymgolli mewn llyfr gwych, boed hwnnw’n llyfr newydd am £1, yn hen ffefryn, neu’n llyfr y maen nhw wedi bwriadu ei ddarllen ers oesoedd.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ymwneud â dathlu darllen, ac eleni neges Diwrnod y Llyfr i ddarllenwyr o bob oed yw ‘Darllen dy Ffordd dy Hunan’. Rydyn ni’n credu bod hynny’n rheswm gwych dros ddewis pa lyfr bynnag rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n ei garu, cael eich hun yn gyfforddus, a mwynhau! Mae cymaint o lyfrau gwych ar gael, naill ai i’w prynu gyda thocyn llyfr gwerth £1, neu i’w benthyg o’ch llyfrgell leol.”

Ychwanegodd Cassie Chadderton, Prif Weithredwr Ddiwrnod y Llyfr®: “Mae Diwrnod y Llyfr yn ymwneud â gwneud darllen yn hwyl ac yn hygyrch i bob plentyn. Rydym yn gwybod pan fydd plant yn mwynhau darllen, y bydd hyn yn cael effaith barhaol ar eu dyfodol. Mae’r neges ‘Darllen Dy Ffordd dy Hunan’ eleni yn ymwneud â grymuso plant i ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n ei garu a mwynhau ei ddarllen yn eu ffordd eu hunain, mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus iddyn nhw.”

Mae cwmni dillad Cymraeg, ani-bendod, wedi dylunio crys-T arbennig i ddarllenwyr i’w gwisgo er mwyn mwynhau darllen yn gyfforddus trwy’r flwyddyn. Rhoddir £1 o werthiant pob crys-T i gronfa arbennig a ddarperir gan y Cyngor Llyfrau i gefnogi’r ddarpariaeth o lyfrau i blant ar gyfer banciau bwyd yng Nghymru.

Rhwng 13 Chwefror a 23 Mawrth, mae modd i blant gyfnewid eu tocyn llyfr £1 am un o’r 15 llyfr sydd wedi’u creu yn benodol ar gyfer Diwrnod y Llyfr, yn eu siop lyfrau leol, llyfrgelloedd a manwerthwyr y stryd fawr, neu ei ddefnyddio fel cyfraniad o £1 tuag at unrhyw lyfr pris llawn neu lyfr llafar sydd ar gael gan y manwerthwyr sy’n rhan o’r cynllun.