Wrth i’r flwyddyn ysgol ddod i ben, mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru yn nodi carreg filltir allweddol i broject sy’n rhoi llyfr yn anrheg fel rhan o gynllun Caru Darllen Ysgolion, i ddarparu llyfr eu hunain i bob plentyn mewn ysgol wladol yng Nghymru. Mae bron i 300,000 o lyfrau rhad ac am ddim a 170,000 o docynnau llyfrau wedi’u rhoi i ddysgwyr wrth i’r cam o’r project sy’n darparu rhoddion unigol mewn ysgolion ddod i ben. Y llynedd rhoddwyd tua 53,000 o lyfrau i fanciau bwyd a grwpiau cymunedol yng ngham cyntaf y prosiect.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gweithio i hybu darllen er pleser a’i fanteision i iechyd meddwl a lles. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, maent wedi bod yn gweithio i sicrhau bod darllen a mynediad at lyfrau yn cael ei gydnabod fel rhywbeth hanfodol yn hytrach na moethusrwydd. Wrth i deuluoedd wneud penderfyniadau gwario anodd, mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod rhieni bellach yn prynu llai o lyfrau i’w plant. [1]
Mae’r rhaglen Caru Darllen Ysgolion yn darparu llyfrau a thalebau llyfrau i ysgolion, plant ysgol unigol, a chymunedau Cymreig, er mwyn sicrhau bod llyfrau ar gael i bawb, ac mewn ymgais i gefnogi’r rhai na allant roi llyfr eu hunain i blentyn.
Trwy’r rhaglen hon, mae gan ddysgwyr ar draws Cymru fynediad cyfartal i ystod amrywiol o lenyddiaeth apelgar ac o safon, yn Gymraeg a Saesneg, sydd wedi’i dewis yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Ers mis Ebrill 2022, mae 53,075 o lyfrau am ddim wedi’u dosbarthu i fanciau bwyd lleol a grwpiau cymunedol, tra bod bron i 300,000 o lyfrau wedi’u rhoi i blant ysgolion cynradd gwladol ledled Cymru.
Yn y cyfamser, er mwyn annog plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau i barhau i ddarllen er pleser, mae’r cynllun wedi darparu tocynnau llyfrau i ysgolion uwchradd gwladol y gall myfyrwyr eu defnyddio yn erbyn llyfr o’u dewis. Mae 170,000 o docynnau llyfrau wedi’u dosbarthu, gyda 51 o siopau a gwerthwyr llyfrau Cymraeg annibynnol yn cymryd rhan.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae hon yn garreg filltir wych i’w chyrraedd. Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i danio angerdd am ddarllen. Mae llyfrau yn agor y drws i sgiliau newydd, yn hybu dychymyg ac yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad plentyn.
“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant yn mwynhau darllen ac yn parhau i wneud hynny. Mae ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yn rhoi cyfle gwych i ledaenu llawenydd darllen.”
Mae Siop Siwan yn Wrecsam yn un o’r siopau sy’n rhan o’r cynllun, a dywedodd: “Mae ymgyrch Caru Darllen wedi bod yn gyfle i adeiladu perthynas gyda’r ysgolion ac i mi roedd yn gyfle na ddylid ei golli. Gweithiais gydag ysgol anghenion arbennig leol, St Christopher’s, gan eu gwahodd i’r siop i gyfnewid eu talebau am lyfrau a chaniatáu iddynt fagu hyder a dysgu sgiliau bywyd newydd ar gyfer y dyfodol.”
“Fy hoff ran o ymwneud â’r cynllun hwn oedd gweld pa mor ddiolchgar y bu rhai o’r plant am eu llyfr. I rai, efallai mai dyma’r unig lyfr sydd ganddyn nhw y tu allan i adeilad yr ysgol.”
Yn ogystal, trwy gydol 2023, bydd pob ysgol wladol yng Nghymru yn derbyn bocs o 50 o lyfrau, i alluogi dysgwyr i fwynhau llyfrau newydd yn yr ystafell ddosbarth neu lyfrgell yr ysgol.
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yng Nghonwy newydd dderbyn eu bocs fel rhan o’r cynllun, a dywedodd: “Roedd yn fraint i ni gael yr awdures Bethan Gwanas i ysbrydoli ein disgyblion gyda’i hangerdd am ddarllen. Roedden nhw wrth eu boddau yn archwilio’r ystod amrywiol o lyfrau o’n siop lyfrau leol.
“Aethon ni â’r disgyblion hefyd i Lyfrgell Llanrwst a’r siop lyfrau Cymraeg leol. Roedd yn hyfryd gweld pob un ohonyn nhw’n dychwelyd gyda llyfr roedden nhw wedi’i ddewis gyda’u taleb.
“Roedd yr ymweliadau hyn nid yn unig yn meithrin cariad at ddarllen ond hefyd yn ein cysylltu â’r gymuned. Rydym wedi gallu rhannu’r llawenydd hwn o ddarllen gyda myfyrwyr o Colombia ar daith gyfnewid, yn ogystal â’n disgyblion blwyddyn 7, 8, a 9. Mae’r fenter hon wedi tanio diddordeb newydd mewn darllen personol ymhlith ein disgyblion.”
Prif nod ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yw annog darllen er pleser o oedran ifanc. I ledaenu’r neges, mae’r ymgyrch wedi ennyn cefnogaeth nifer o unigolion adnabyddus o Gymru, gan gynnwys James Hook, Steffan Powell, Charlotte Harding a Bethany Davies, pob un ohonynt wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan y Cyngor Llyfrau yn archwilio eu hoffter o ddarllen, a sut y mae wedi siapio eu bywydau personol a’u gyrfaoedd.
Yn ei darn hi, mae pêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Jess Fishlock MBE, yn amlygu pwysigrwydd cynrychioli cymunedau amrywiol mewn llyfrau sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc. “Mae gwelededd gwahanol gymunedau a hunaniaethau o fewn llyfrau mor bwysig. Cefais drafferth yn yr ysgol gyda bwlio a dod i delerau â fy rhywioldeb. Rwy’n meddwl pe bai llyfrau wedi bod ar gael i mi bryd hynny, i’m helpu i ddeall yr hyn yr oeddwn yn ei feddwl a’i deimlo, yna efallai na fyddwn wedi mynd trwy’r hyn yr es i drwyddo.
Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i addysgu dysgwyr am y byd o’u cwmpas, a’u harfogi â gwybodaeth am bobl o bob cefndir, mae hyn yn cynnwys cynrychioli pobl o’r gymuned LHDTQ+ mewn llenyddiaeth neu hyd yn oed werslyfrau ysgol.”
Mae hi hefyd yn cyffwrdd ar bwysigrwydd blaenoriaethu darllen a llyfrau: “Pan mae pethau’n anodd, efallai eich bod chi’n meddwl mai llyfr yw’r peth olaf sydd ei angen arnoch chi, ond fe allai fod y peth gorau i fuddsoddi ynddo ar hyn o bryd, gan fod ganddo’r gallu i fynd â chi i fyd arall.
Yn ystod cyfnod ariannol anodd, mae gan bobl fynediad i lyfrgelloedd lleol o hyd, maen nhw’n ffordd wych o gael gafael ar lyfrau am ddim.”
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Cynhaliwyd ein mentrau rhoi llyfr yn anrheg yn gyntaf yng Ngheredigion a Merthyr Tudful yn ystod haf 2020 ar anterth y cyfyngiadau clo, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael gafael ar lyfrau pan oedd llyfrgelloedd a siopau ar gau, oherwydd mae darllen mor bwysig i’n hiechyd meddwl a’n lles.
Credwn y dylai pawb gael mynediad at lyfrau, waeth beth fo’u gallu i’w fforddio. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg am rannu’r weledigaeth hon ac am ariannu Caru Darllen Ysgolion er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn mewn ysgol wladol yng Nghymru lyfr eu hunain.
Hoffem weld rhoddion llyfrau i ysgolion yn dod yn weithgaredd rheolaidd ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i barhau i sicrhau bod llyfrau ar gael i bawb eu mwynhau.”
[1] Mynediad plant a phobl ifanc at lyfrau a dyfeisiau addysgol gartref yn ystod yr argyfwng costau byw | Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol